English icon English

Y gwaharddiad ar fêps untro yn dod i rym y penwythnos hwn

Single use vapes ban comes into force this weekend

O ddydd Sul, 1 Mehefin, bydd fêps untro yn cael eu gwahardd ledled y DU gyfan i leihau'r niwed amgylcheddol a achosir wrth eu cynhyrchu ac yn sgil eu taflu.

Mae Cadwch Gymru'n Daclus yn amcangyfrif bod 360,000 o fêps untro yn cael eu taflu fel sbwriel ar lawr yng Nghymru dros flwyddyn, a bod 120,000 yn cael eu fflysio i lawr y toiled.

Mae sbwriel yn difetha ein cymunedau, yn llygru pridd, afonydd a nentydd â sylweddau niweidiol, ac yn achosi niwed i fioamrywiaeth.

Mae’r gwaharddiad yn dilyn yr ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ‘ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn’.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies: "Mae fêps untro yn creu sbwriel a llygredd plastig; bydd y gwaharddiad hwn yn helpu i atal y niwed difrifol y mae'r cynhyrchion hyn yn ei achosi i'n bywyd gwyllt a'n hamgylchedd.

"Dylech eu hailgylchu mewn siopau fêps, neu ewch â nhw i ganolfan ailgylchu awdurdod lleol, i'w gwaredu'n ddiogel. Peidiwch byth â rhoi fêps yn y bin gan fod perygl iddyn nhw fynd ar dân."

Dywedodd Owen Derbyshire, Pennaeth Cadwch Gymru'n Daclus:

"Rydym yn croesawu'n gynnes penderfyniad Llywodraeth Cymru i wahardd fêps untro - rhywbeth rydyn ni wedi bod yn galw amdano ers sawl blwyddyn. Gwnaeth bron i hanner yr holl sesiynau casglu sbwriel gan ein gwirfoddolwyr y llynedd ddod ar draws y cynhyrchion niweidiol hyn. Maen nhw'n bla i'n cymunedau, yn berygl i fywyd gwyllt, a bron yn amhosibl eu hailgylchu. Mae'n wych gweld y lefel hon o uchelgais gan y llywodraeth, ochr yn ochr ag ymrwymiad clir i fynd i'r afael â'r broblem sbwriel ehangach yn ei ffynhonnell."

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy: "Yn ogystal â'r effeithiau amgylcheddol, rydym yn gwybod bod fêps untro yn cael eu defnyddio gan blant a phobl ifanc ac maen nhw'n ffactor yn y cynnydd sylweddol mewn fepio ymlith pobl ifanc dros y blynyddoedd diwethaf.

"Bydd gwahardd fêps untro yn ein helpu i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag cynhyrchion fepio fel nad ydyn nhw byth yn dechrau fepio ac yn osgoi'r niwed a achosir o fod yn gaeth i nicotin."

Mae tua 2,000 o fanwerthwyr bach a chanolig ledled Cymru wedi cael gwybodaeth copi caled gan Lywodraeth Cymru yn esbonio'r gwaharddiad a'r camau y mae angen iddynt eu cymryd.

Rhaid i fusnesau sy'n gwerthu fêps untro gynnig gwasanaeth ailgylchu a chymryd fêps, podiau a batris eu cwsmeriaid yn ôl, a chael gwared ar unrhyw fêps untro sydd ganddynt dros ben yn gywir.

DIWEDD