Y gwaith o ddarparu brechlyn Covid i blant 12 i 15 oed yn cyflymu yng Nghymru
Roll-out of Covid vaccination for 12 to 15-year-olds gathers pace in Wales
Wrth i blant 12 i 15 mlwydd oed ar draws Cymru ddechrau cael eu brechu rhag Covid, heddiw (4 Hydref) mae’r Gweinidog Iechyd wedi cadarnhau y byddan nhw i gyd yn cael cynnig brechiad erbyn diwedd hanner tymor mis Hydref.
Bydd pob plentyn 12 i 15 mlwydd oed yn cael ei wahodd drwy lythyr i gael y brechlyn. Bydd y rhan fwyaf o’r brechiadau’n cael eu rhoi mewn Canolfannau Brechu Torfol. Mewn rhai ardaloedd, bydd ysgolion yn cael eu defnyddio hefyd.
Mae rhai o’r plant 12 i 15 oed sydd fwyaf agored i niwed yng Nghymru eisoes wedi dechrau cael y brechlyn a bydd pob Bwrdd Iechyd wedi dechrau ar y gwaith yn eu hardaloedd erbyn yr wythnos hon.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: “Brechlynnau yw’r ffordd orau o hyd o’n diogelu rhag y feirws. Maen nhw’n helpu i atal niwed a lleihau lledaeniad Covid-19.
Mae rhai astudiaethau wedi dangos bod lle i gredu bod 1 o bob 7 plentyn sydd wedi’i heintio â’r feirws yn datblygu Covid Hir.
Mae’n bwysig bod y plentyn a’r rhiant yn gallu gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ac rydyn ni wedi darparu adnoddau i blant a phobl ifanc a’u rhieni i’w cynorthwyo. Rwy’n annog rhieni, gwarcheidwaid, plant a phobl ifanc i drafod y brechlyn gyda’i gilydd.”
Ychwanegodd Dr Gill Richardson, y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol ar gyfer Brechlynnau: “Rydyn ni wedi gweld y manteision a geir pan fydd cynifer o bobl â phosib’ wedi’u brechu.
Ar ôl ystyried y dystiolaeth yn ofalus, fe wnaeth pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU argymell brechu plant iach, 12 i 15 mlwydd oed, ar ôl ymgynghori ag arbenigwyr megis Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant.
Daethant i’r casgliad bod y manteision iechyd a nodwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), ynghyd â’r manteision ychwanegol o ran llai o darfu ar addysg a lleihau’r effeithiau ar iechyd meddwl, yn golygu y dylid cynnig brechiadau.
Bydd plant a’u teuluoedd yn cael gwybodaeth gefndirol, yn ogystal â’u gwahoddiad drwy lythyr, fel y gallan nhw benderfynu ar sail tystiolaeth a ydyn nhw am gael y brechlyn ai peidio.”