English icon English
Jeremy Miles JM

Y Gwasanaeth Llesiant Staff estynedig yn lansio’n swyddogol

Bydd y Gwasanaeth Llesiant Staff estynedig yn lansio’n swyddogol heddiw (dydd Llun 30 Ionawr). Mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wedi cyhoeddi £600,000 o gyllid ychwanegol i wella cyrhaeddiad a dyfnder y rhaglen.

Lansiodd y gwasanaeth gyntaf yn 2021 ac ers hynny mae wedi helpu cannoedd o ysgolion. Mae’r adborth annibynnol gan y rhai sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth yn gadarnhaol iawn. Dywedodd 96% o gyfranogwyr eu bod yn ‘fodlon iawn’ ar y gwasanaeth. Dywedodd 100% o gyfranogwyr bod y cynghorwyr llesiant yn effeithiol iawn.

Bydd y cyllid ychwanegol gwerth £600,000 yn cynyddu nifer y cynghorwyr llesiant fydd yn gallu cefnogi ysgolion i drawsnewid eu diwylliant a gwella llesiant staff. Mae gwaith i ddatblygu cefnogaeth wedi'i theilwra ar gyfer cynorthwywyr addysgu hefyd wedi'i gomisiynu.


Mae’r cynghorwyr newydd eisoes wedi’u recriwtio. Dywedodd Jessica Hannan sy’n gweithio i Wasanaeth Llesiant Staff, Education Support: “Rwy’n mwynhau fy ngwaith fel Cynghorydd Llesiant i ysgolion yng Nghymru ac yn ei weld yn fraint. Rwy’n gweithio gydag ysgolion i ddatblygu strategaethau a chynlluniau llesiant sy’n blaenoriaethu iechyd meddwl a llesiant staff.


“Does dim un ysgol yr fath, felly mae ein gwaith ym mhob ysgol yn wahanol. Rydym yn darparu cyngor ac arweiniad unigryw, gan addasu ein cymorth i sicrhau bod llesiant yn ymwneud â mwy na rhoi tic mewn bocs.


“Rwy’n gwybod fy mod i wedi gwneud fy ngwaith pan fydd ysgolion yn teimlo’n hyderus i gynnal eu gweithgareddau llesiant eu hunain. Rwyf wedi gweld llwyth o ysgolion yn mynd ymlaen i roi arferion llesiant gwych ar waith, ac rwy’n falch bod y gwaith hwn wedi’i ymestyn ac y gallwn barhau i gael effaith go iawn mewn ysgolion yng Nghymru.”

Mae'r rhaglenni yn cynnig dau fath o gymorth:

  • Mynediad at Wasanaeth Cynghori Ysgolion sy'n rhoi’r cyfle i ysgolion gymryd rhan mewn sgyrsiau agored, gonest ac anfeirniadol am sut i wneud gwelliannau, gyda chefnogaeth cyngor a chymorth ymarferol

  • Y gwasanaeth Cefnogi a Datblygu Llesiant sy'n darparu cyfleoedd datblygu trylwyr i gynnal brwdfrydedd, diddordeb ac effeithiolrwydd staff yn eu swyddi.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: "Rwy'n falch ein bod ni yng Nghymru yn arloesi gyda'n Dull Ysgol Gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant. Mae dysgu am iechyd meddwl a llesiant emosiynol bellach yn rhan orfodol o’r Cwricwlwm i Gymru ar gyfer pob ysgol.   

"Mae llesiant emosiynol y gweithlu addysg hefyd yn hanfodol ac rydym yn bwriadu cynyddu'r gefnogaeth hon o flwyddyn i flwyddyn tan 2025.

"Bydd y Gwasanaeth Llesiant Staff yn chwarae rhan enfawr yn y gwaith o gefnogi'r gweithlu ac rwy'n falch iawn y bydd Education Support yn cyflwyno'r rhaglen arbennig hon eto. Mae nifer o ysgolion eisoes wedi elwa ar y gwasanaeth ac rwy'n annog pob ysgol i ddysgu sut gall y rhaglen estynedig eu helpu."

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:

"Mae'r Gwasanaeth Llesiant Staff yn darparu cymorth sydd wedi’i deilwra i anghenion ein gweithlu addysg er mwyn eu helpu i gael cymorth yn haws, pe bai ei angen arnynt.

"Dyna yn union yw nod ein Dull Ysgol Gyfan - gwneud yn siŵr bod pawb yn yr ysgol yn cael ei gefnogi, gan gynnwys dysgwyr a staff hefyd. Rwy'n falch iawn o weld y rhaglen yn cael ei hestyn i hyd yn oed rhagor o ysgolion, fel y gall mwy fyth o bobl elwa arni."

Faye McGuinness, Cyfarwyddwr Rhaglenni, Education Support

"Mae athrawon, arweinwyr a staff yr ysgol yn chwarae rhan hanfodol o ran llywio bywyd plant a phobl ifanc, ac mae iechyd meddwl ac emosiynol da wrth wraidd eu gallu i wneud eu swyddi'n effeithiol.

"Mae er budd pawb - disgyblion, rhieni a Chymru gyfan – i sicrhau bod addysgwyr yng Nghymru yn ddigon iach yn feddyliol ac yn emosiynol i arwain ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.

"Er mwyn i iechyd meddwl staff ffynnu, rhaid i ddiwylliant yr ysgol flaenoriaethu hynny. Er mwyn sicrhau brwdfrydedd a diddordeb y staff, rhaid iddynt barhau i ddatblygu eu harbenigedd a chynnal eu hangerdd am y swydd. Dyna pam rydym yn falch o allu ehangu'r gwasanaethau hyn i gyrraedd hyd yn oed mwy o staff yr ysgol gyda chyfleoedd datblygu, ochr yn ochr â'n Gwasanaeth Cynghori Ysgolion presennol, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru."