Y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles yn ymweld â Choleg Llandrillo i siarad am iechyd meddwl
Education Minister Jeremy Miles visits Coleg Llandrillo to talk about mental health
Yr wythnos hon, ymwelodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, â Choleg Llandrillo i drafod y gwaith pwysig y maen nhw’n ei wneud i gefnogi staff a dysgwyr o ran eu hiechyd meddwl.
Ers 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu dros £7m i gefnogi staff a dysgwyr addysg bellach ledled Cymru o ran eu hiechyd meddwl a’u lles.
Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi defnyddio ei gyfran o’r cyllid hwn i benodi mentoriaid lles, cynghorwyr myfyrwyr a swyddogion cyfoethogi, i ddarparu hyfforddiant iechyd meddwl i staff ac i lunio strategaeth les ar gyfer ei golegau.
Fel rhan o’i Bartneriaeth Iechyd Meddwl â Choleg Cambria, mae Grŵp Llandrillo Menai wedi arwain y gwaith o ddatblygu arolwg lles dwyieithog ac adnodd ymyrraeth gynnar i fesur lles. Mae’r arolwg yn rhoi adborth ar unwaith i ddysgwyr, gan eu galluogi i olrhain eu lefelau lles cyffredinol, ac mae’n nodi dysgwyr a fyddai’n elwa o gefnogaeth bersonol.
Mae Grŵp Llandrillo Menai a Choleg Cambria wedi cydweithio i greu rhaglen i ddatblygu hunanymwybyddiaeth, meithrin gwytnwch a helpu myfyrwyr a staff i drafod gorbryder. Mae tiwtoriaid a rheolwyr yn defnyddio’r rhaglen hon i gefnogi dysgwyr, ac mae staff yn ei defnyddio i nodi’r hyn sy’n creu gorbryder ac i fynd i’r afael â hynny.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
“Mae wedi bod yn wych cael cwrdd â staff a dysgwyr heddiw er mwyn gweld y gwaith gwerthfawr y maen nhw’n ei wneud i gefnogi iechyd meddwl a lles mewn addysg bellach.
“Rydyn ni’n dal i weld effaith y pandemig ar lefelau lles, ond dw i am wneud yn siŵr bod pawb yn mwynhau’r hawl i brofiad addysgol hapus. Mae cefnogi staff a dysgwyr, fel ei gilydd, o ran iechyd meddwl a lles yn hollbwysig, a dw i’n falch o weld y gwaith sy’n cael ei wneud i gyflawni hyn.”
Dywedodd Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai:
“Mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi bod yn amhrisiadwy yn ystod y pandemig i gefnogi rhai o’n dysgwyr sy’n agored i niwed. Mae heddiw wedi bod yn gyfle gwych i’r Gweinidog gwrdd â’r dysgwyr drosto’i hun, a’r staff ymroddedig sy’n ysbrydoliaeth ac sydd wedi gweithio’n ddiflino i ddarparu gwasanaeth mor effeithiol.”