Y Gweinidog Addysg yn llongyfarch dysgwyr ar ddiwrnod y canlyniadau
Education Minister congratulates learners on results day
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi llongyfarch dysgwyr ledled Cymru, wrth i ddysgwyr cymwysterau Safon Uwch, Safon UG, Bagloriaeth Cymru, a chymwysterau galwedigaethol gael eu canlyniadau y bore 'ma.
Am y tro cyntaf ers 2019, dychwelodd dysgwyr at arholiadau ac asesiadau ffurfiol eleni ar gyfer Safon Uwch a Safon UG. Roedd llawer o ddysgwyr galwedigaethol wedi derbyn eu canlyniadau Lefel 3 heddiw hefyd.
Caiff canlyniadau TGAU eleni eu cyhoeddi ddydd Iau nesaf, 25 Awst.
Ymwelodd y Gweinidog â Choleg Sir Gâr yn Llanelli y bore ‘ma, a chyfarfu â myfyrwyr a oedd yn casglu eu canlyniadau. Dywedodd:
"Hoffwn i longyfarch pawb sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw. Mae'n ddiwrnod mawr i chi i gyd, ac yn benllanw blynyddoedd o waith caled. Gobeithio i chi gael y graddau yr oeddech wedi gobeithio amdanynt.
"Rydyn ni'n gwybod yn iawn bod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn heriol iawn i fyfyrwyr ac i staff. Felly i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith o sicrhau y gallai arholiadau eleni gael eu cynnal, mae heddiw'n haeddiant am yr holl waith caled yr ydych chi wedi'i wneud.
"Bydd y nifer uchaf erioed o bobl ifanc o Gymru'n mynd i'r brifysgol eleni, ac mae amser cyffrous o'u blaenau.
"Os nad ydych chi wedi cael y canlyniadau yr oeddech chi wedi gobeithio amdanynt, neu os nad ydych chi'n siŵr am eich camau nesaf, fy neges allweddol yw - peidiwch â bod yn rhy siomedig a pheidiwch â bod yn rhy galed ar eich hunain. Mae llawer o opsiynau ar gael i chi, gan gynnwys system glirio prifysgolion, prentisiaethau, a dechrau eich busnes eich hun hyd yn oed. Mae Gyrfa Cymru yn lle gwych i gael cyngor yn y lle cyntaf, a bydd eich ysgol neu eich coleg yno i'ch cefnogi chi hefyd.
"Mae ein Gwarant i Bobl Ifanc yn rhoi cyfle i bawb o dan 25 oed i ddilyn rhaglen addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu fynd yn hunangyflogedig. Felly'n sicr mae llawer o opsiynau ar gael i chi allu dilyn yr yrfa yr ydych chi'n ei dymuno.
"Rwy'n gobeithio y bydd pob un ohonoch sy'n derbyn eich canlyniadau heddiw yn cymryd amser i ganmol eich hunain, mwynhau gweddill yr haf ac edrych ymlaen at y cyfleoedd cyffrous sydd o'ch blaenau."