English icon English

Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn addo ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl, “Rydyn ni wedi ymrwymo i wreiddio'r Model Cymdeithasol o Anabledd a gwared yr holl rwystrau i annibyniaeth pobl anabl”

"We are committed to embedding the Social Model of Disability and removing the barriers that are limiting the independence of disabled people," Minister vows on International Day of Disabled People

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt wedi cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r Model Cymdeithasol o Anabledd ar ôl clywed gan bobl anabl am y rhwystrau y maent wedi eu hwynebu.

Yn siarad ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl (3 Rhagfyr), ar ôl cwrdd â phobl yng Nghanolfan Byw Annibynnol Dewis yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd y Gweinidog fod y diwrnod yn ein helpu i dynnu sylw at faint o bobl sy'n profi gwahaniaethu ar sail anabledd.

Aeth ymlaen i ddweud bod taliadau uniongyrchol yn hanfodol er mwyn helpu pobl anabl i fod yn annibynnol, a bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'w defnyddio'n ehangach.

Cafodd y Gweinidog, ynghyd â'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan, gyfle i gwrdd â chynrychiolwyr o Dow Silicones UK Ltd ac Admiral yn ystod yr ymweliad â Dewis, er mwyn clywed gan y ddau gwmni am y ffordd y maent yn defnyddio'r Model Cymdeithasol o Anabledd wrth recriwtio ac yn eu gwaith bob dydd.

Dywedodd Kim Eversham o Dow, a fu'n bresennol yn y digwyddiad gyda nifer o interniaid o Brosiect SEARCH y cwmni: “Rydyn ni wedi bod yn cynnal ein rhaglen Prosiect SEARCH ers pedair blynedd. Drwy'r rhaglen, rydyn ni wedi cynnal hyfforddiant ‘Anabledd Dysgu’ ar gyfer gweithwyr Dow er mwyn codi ymwybyddiaeth a newid meddylfryd a barn pobl tuag at anableddau dysgu.

“Drwy Brosiect SEARCH rydyn ni wedi ymrwymo i newid bywydau pobl ifanc sydd ag anableddau dysgu ac awtistiaeth ac i gefnogi unigolion i gael swyddi ystyrlon.”

Dywedodd Paul Billington, Rheolwr Llesiant a Chymorth yn y Gweithle Admiral: “Rydyn ni'n gwerthfawrogi amrywiaeth o ddifrif yma, ac rydyn ni'n gweithio'n galed i greu amgylchedd gwaith lle mae pawb yn cael eu clywed a'u cefnogi.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd i bawb drwy gael gwared ar rwystrau yn y gweithle ac ehangu'r sgwrs am gynwysoldeb a chydraddoldeb.

“Mae ein tîm Llesiant a Chymorth yn y Gweithle pwrpasol ar gael i wrando ar bryderon pobl, i roi addasiadau personol ar waith, ac i ryddhau potensial llawn pob un o'n cydweithwyr nawr, ac yn y dyfodol”.

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Tasglu Hawliau Pobl Anabl a'i bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod pobl anabl yn gallu rheoli eu bywydau eu hunain a manteisio ar yr holl fuddion a hawliau y mae pobl eraill yn eu cymryd yn ganiataol.

Dywedodd: “Mae'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl a'i weithgorau, sydd wedi eu sefydlu ar sail cydgynhyrchu a pharch o'r ddwy ochr, yn cyfarfod yn rheolaidd. Maen nhw'n datblygu atebion i herio'r rhwystrau strwythurol a chorfforol a'r rhwystrau o ran agwedd a wynebir gan bobl anabl. Defnyddir yr atebion hyn i lunio Cynllun Gweithredu newydd i Gymru ar gyfer Hawliau Pobl Anabl.  

“Bydd y gwaith hwn yn datblygu ymhellach y fframwaith ‘Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw'n Annibynnol’. Drwy hyn, bydd modd inni fynd ati’n gadarnhaol i osod y sylfeini ar gyfer Cymru sy'n wirioneddol gynhwysol.”

Ychwanegodd y Gweinidog: “Mae hybu'r Model Cymdeithasol o Anabledd a'i wreiddio yn Llywodraeth Cymru ac mewn cyrff cyhoeddus ledled Cymru yn un o brif flaenoriaethau'r Llywodraeth hon.

“Drwy helpu'r bobl hynny sy'n gwneud penderfyniadau ac sy’n datblygu polisïau i ddeall eu rôl o ran chwalu'r rhwystrau sy'n ‘anablu’ pobl, gall y gwaith o drawsnewid go iawn ddechrau.”