Y Gweinidog dros Addysg yn llongyfarch dysgwyr ar ddiwrnod eu canlyniadau TGAU
Education Minister congratulates learners on GCSE results day
Mae'r Gweinidog dros Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan, wedi llongyfarch dysgwyr ledled Cymru sy'n derbyn canlyniadau TGAU, Bagloriaeth Cymru a chymwysterau galwedigaethol.
Ymunodd y Gweinidog â dysgwyr yn Ysgol Uwchradd Llanisien, yng Nghaerdydd wrth iddynt gasglu eu canlyniadau.
"Dw i am longyfarch pawb sy'n cael eu canlyniadau heddiw. Mae hwn yn bwynt pwysig ym mywyd person ifanc, ond 'dyw eich canlyniadau ddim yn diffinio eich dyfodol. Beth bynnag yw eich canlyniadau, mae digon o gyfleoedd ar gael ichi, p'un a ydych chi am fynd i addysg bellach, dilyn prentisiaeth, neu ddechrau mewn cyflogaeth.
"Mae hwn yn amser cyffrous i feddwl am eich camau nesaf, ac mae cefnogaeth ar gael drwy eich ysgol, Cymru'n Gweithio a Gyrfa Cymru.
"Mae hefyd yn ddiwrnod balch i athrawon a staff addysg ledled Cymru sydd wedi cefnogi dysgwyr drwy gydol eu hamser yn yr ysgol, a dw i am ddiolch iddyn nhw am eu hymroddiad a'u cefnogaeth.
"Ry'ch chi wedi gweithio'n galed i gael y canlyniadau hyn, a dw i'n gobeithio y byddwch chi'n mwynhau dathlu eich camp gyda theulu a ffrindiau. Dw i'n dymuno pob lwc ichi yn yr hyn y byddwch chi'n dewis ei wneud nesaf."