Y Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi cynnydd cyflog i staff GIG Cymru
Health Minister announces pay rise for NHS Wales staff
Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan wedi derbyn argymhellion cyrff adolygu cyflogau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gan gyhoeddi cynnydd i gyflogau staff GIG yng Nghymru heddiw.
Argymhelliad Corff Adolygu Cyflogau’r GIG (NHSPRB), ar gyfer staff y GIG ar delerau ac amodau’r Agenda ar gyfer Newid – gan gynnwys nyrsys, glanhawyr, porthorion, gweithwyr cymorth gofal iechyd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, yw cynnydd o £1,400 i gyflogau yn y mwyafrif o raddfeydd cyflog. Ond, dywedodd y Gweinidog Iechyd, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu’r argymhelliad hwn ar ben y cynnydd Cyflog Byw Gwirioneddol a gyhoeddwyd yn flaenorol ac a ddaeth i rym ym mis Ebrill.
Ar gyfer staff ar y cyflogau isaf (bandiau 1 i 4), sef bron i hanner gweithlu’r Agenda ar gyfer Newid, bydd hyn ar gyfartaledd yn cyfateb i gynnydd cyflog o 7.5% ar raddfeydd cyflog.
Bellach, £20,758 fydd cyflog cychwynnol y swyddi sy’n talu’r cyflogau isaf, yn band 1 a gwaelod band 2, yn GIG Cymru. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd cyflog o 10.8% yn y flwyddyn ariannol hon ar gyfer y band hwn ac fe fyddai’n golygu mai Cymru yw’r wlad sy'n talu’r cyflogau uchaf yn y DU i’r staff yn y bandiau isaf yn y GIG.
Ar gyfer staff ar frig band 6 ac ym mand 7, ychwanegir at y taliad o £1,400 fel y bydd yn cyfateb i gynnydd cyflog o 4%.
Yn dilyn cyfres o gyfarfodydd gydag undebau llafur a chyrff cynrychioladol yr wythnos hon, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i edrych ar amrywiol faterion eraill a godwyd fel rhan o’r trafodaethau.
Mae’r Gweinidog Iechyd hefyd wedi derbyn argymhellion y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion (DDRB) i gynyddu cyflogau 4.5% ar gyfer meddygon iau, ymgynghorwyr, meddygon teulu a deintyddion sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y byrddau iechyd.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:
"Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol a byddwn yn parhau i ddefnyddio ein strwythurau partneriaeth gymdeithasol gan ddod ag undebau llafur, cyflogwyr a'r llywodraeth at ei gilydd i sicrhau'r canlyniad gorau posibl o fewn y cyllid sydd ar gael i ni. Rwy’ am ddiolch i undebau llafur a chyrff cynrychioliadol am roi o'u hamser i gwrdd â mi yr wythnos hon ac am y trafodaethau adeiladol a gawsom.
"Mae staff y GIG wedi gweithio'n eithriadol o galed drwy gydol y pandemig i'n diogelu ni i gyd ac maen nhw’n parhau i ddarparu gwasanaeth anhygoel yn wyneb pwysau dwys.
"Rwy'n gobeithio y bydd y dyfarniad cyflog hwn yn helpu i gydnabod eu gwaith caled, ond heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU mae'n anochel bod cyfyngiadau ar ba mor bell y gallwn fynd yng Nghymru. Rydyn ni’n dal i bwyso arnyn nhw i drosglwyddo'r cyllid llawn sydd ei angen ar gyfer codiadau cyflog teg i weithwyr y sector cyhoeddus.
"Rydyn ni i gyd yn wynebu argyfwng costau byw. Rydyn ni wedi strwythuro'r dyfarniad cyflog hwn er mwyn i’r staff ar y cyflogau isaf yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol weld y cynnydd mwyaf yn eu cyflog, sy'n cyfateb i gynnydd cyflog o 10.8%, gan olygu mai'r Cymru fydd y wlad sy'n talu’r cyflogau uchaf yn y Deyrnas Unedig i’r staff yn y bandiau cyflog isaf yn y Gwasanaeth Iechyd."
Er nad yw o fewn cylch gwaith y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion, bydd meddygon arbenigedd ac arbenigol o dan gontract 2021 yn cael taliad untro o £1,400 i gydnabod yr argyfwng costau byw na welwyd ei debyg o’r blaen. Bydd meddygon arbenigedd o dan gontract 2008 yn derbyn cynnydd cyflog o 4.5%, ond bydd y rhai ar y raddfa gyflog uchaf o dan gontract 2008 yn cael taliad untro sy’n cyfateb i 4.5%.
Mae'r cynnydd o 4.5% a argymhellir mewn cyflog ar gyfer ymarferwyr cyffredinol a deintyddion dan gontract yn amodol ar newidiadau cyffredinol i gontractau gan y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol a Deintyddol Cyffredinol ac mae trafodaethau’n parhau.
Mae’r Gweinidog Iechyd wedi’i gwneud yn glir y dylai staff sy’n gweithio ym maes ymarfer cyffredinol, mewn timau deintyddol ac mewn fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru gael cynnydd cyflog teg a chymesur.