English icon English

Y Gweinidog Iechyd yn dweud: ‘Rydym wedi ymrwymo i wella mynediad at ddiffibrilwyr yn y gymuned er mwyn cynyddu’r nifer sy’n goroesi ataliad ar y galon’

‘We are committed to improving community access to defibrillators to boost cardiac arrest survival rates,' vows Health Minister

Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi cyhoeddi £500k yn ychwanegol i wella mynediad at ddiffibrilwyr yn y gymuned a chynyddu nifer y bobl sy’n goroesi ataliad ar y galon y tu allan i’r ysbyty.

Bydd yr arian yn helpu i sicrhau bod gan adeiladau cymunedol a meysydd chwaraeon fynediad at ddiffibrilwyr.

Amcangyfrifir bod siawns claf o oroesi ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty yn gostwng 10 y cant gyda phob munud sy’n mynd heibio.

Drwy gynyddu faint ohonynt sydd ar gael mewn lleoliadau cymunedl, y gobaith yw cynyddu faint sy’n goroesi ar ôl dioddef ataliad ar y galon y tu allan i’r ysbyty.

Cafodd ataliadau ar y galon sylw mawr yr haf hwn, gyda nifer o farwolaethau proffil uchel, gan gynnwys rhai yn anffodus yng Nghymru.

Ym mis Gorffennaf, cymeradwyodd Lywodraeth Cymru gyllid pellach gwerth £2.5m dros y tair blynedd nesaf i Achub Bywydau Cymru. Bydd hyn yn helpu i godi ymwybyddiaeth ymhellach, ariannu adnoddau addysgol a hyfforddi newydd a gwella mynediad y cyhoedd at ddiffibrilwyr.

Ar hyn o bryd, mae 5,423 o ddiffibrilwyr cyhoeddus wedi’u cofrestru gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a The Circuit sef y rhwydwaith diffibrilwyr cenedlaethol. Ond mae o gwmpas 6,000 o bobl yn dioddef ataliad sydyn ar y galon bob blwyddyn yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan, a fydd yn trafod mynediad at ddiffibrilwyr yn ystod dadl yn y Senedd yn ddiweddarach heddiw (dydd Mercher): “Mae’r cyfraddau goroesi ar gyfer achosion o ataliad ar y galon y tu allan i’r ysbyty yn isel yng Nghymru, ond gall nifer yn fwy o fywydau gael eu hachub.

“Rwy’n cefnogi’r galwadau am fwy o ddiffibrilwyr, a dyna pam rydw i wedi brwydro am gyllid ychwanegol gwerth £500k i wella mynediad at ddiffibrilwyr yn y gymuned.

“Mae angen rhwydwaith mawr o ddiffibrilwyr arnon ni, ond mae hefyd angen inni sicrhau bod gan aelodau’r cyhoedd y sgiliau a’r hyder i’w defnyddio, yn ogystal â sgiliau CPR pan na fydd diffibriliwr ar gael.

“Mae pob eiliad yn cyfri pan fydd rhywun yn dioddef ataliad ar y galon. Gall pob un ohonom helpu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd rhoi CPR a defnyddio ddiffibriliwr yn gynnar.”