Y lefelau uchaf erioed o gyllid ar gyfer amddiffynfeydd llifogydd
Record levels of funding for flood defences
Mae’r lefelau diweddaraf o gyllid o gronfa gwerth £214m ar gyfer cynlluniau llifogydd a gyflwynwyd fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Plaid Cymru wedi’u cadarnhau.
Dywedodd y Gweinidog Julie James heddiw bod Llywodraeth Cymru'n 'cadw cymunedau'n ddiogel rhag risg cynyddol newid hinsawdd' wrth iddi gadarnhau'r lefelau uchaf erioed o gyllid ar gyfer gwaith rheoli risg llifogydd.
Wrth siarad yn y Senedd, cadarnhaodd y Gweinidog Newid Hinsawdd fuddsoddiad gwerth £75m wrth iddi gyhoeddi’r Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol ar gyfer 2023-24.
Bydd yr arian yn cael ei roi i Awdurdodau Rheoli Risg i leihau'r risg o lifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru.
Mae gwarchod rhag llifogydd yn rhan allweddol o'r Rhaglen lywodraethu | LLYW.CYMRU a'r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.
Mae'r Rhaglen Lywodraethu'n cynnwys targed uchelgeisiol i ddarparu mwy o ddiogelwch rhag llifogydd i fwy na 45,000 o gartrefi yng Nghymru ac ymrwymiad i ehangu dulliau naturiol o reoli llifogydd a fydd yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur. Mae'r Cytundeb Cydweithio yn cynnwys ymrwymiad ar y cyd i fuddsoddi mwy mewn gwaith rheoli a lliniaru llifogydd a chynllunio i ymateb i'r risg gynyddol o lifogydd.
Wrth gyhoeddi'r cyllid, dywedodd y Gweinidog: "Does dim amheuaeth bod angen y buddsoddiad yma.
"Mae adroddiadau diweddar gan y Panel Rhyngwladol ar Newid Hinsawdd, a Phwyllgor Newid Hinsawdd y DU wedi ailadrodd yr angen am fuddsoddiad parhaus mewn camau lliniaru, addasu a gwydnwch i ymateb i heriau cynhesu byd-eang.
"Ry'n ni'n gwybod y byddai effaith llifogydd wedi bod yn waeth oni bai am ein rhwydwaith ni o amddiffynfeydd a gwaith diflino ein Hawdurdodau Rheoli Risg.
"Dyna pam rydym yn parhau i ddarparu'r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad, er mwyn galluogi ein Hawdurdodau Rheoli Risg i adeiladu a chynnal yr isadeiledd rydym yn dibynnu arno i gadw ein cymunedau'n ddiogel rhag yr heriau a achosir gan newid hinsawdd."
Dywedodd yr Aelod Dynodedig, Sian Gwenllian AS: "Mae’r buddsoddiad mwyaf erioed hwn yn agwedd bwysig ar waith sy’n mynd rhagddo fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio er mwyn ddiogelu cymunedau, cartrefi a busnesau ledled Cymru.
"Wrth i'n hinsawdd newid, mae risg llifogydd wedi cynyddu a thros y blynyddoedd diwethaf rydym oll wedi gweld yr effaith ofnadwy y gall hyn ei chael ar fywydau pobl.
"Yn ogystal â chymryd camau heddiw i atgyfnerthu amddiffynfeydd llifogydd, rydym hefyd yn cydweithio tuag at y tymor canol i’r hirdymor. Yn ogystal â’r cadarnhad o gyllid ar gyfer amddiffynfeydd llifogydd yn 2023-24, rydym wedi comisiynu’r Athro Elwen Evans i gynnal adolygiad annibynnol o Adran 19 ac mae CNC a’r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol yn ystyried sut y gellir lleihau tebygrwydd llifogydd ar draws y wlad erbyn 2050.”
Mae dadansoddiad llawn a map o Raglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol eleni ar gael ar-lein (Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol 2023 i 2024 | LLYW.CYMRU)