Y Gweinidog yn canmol swyddogion yn eu rôl allweddol yn cadw cymunedau yn ddiogel ar batrôl gyda Heddlu’r De
Minister praises officers for their vital role in keeping communities safe while on patrol with South Wales Police
Mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi bod ar batrôl gyda Heddlu’r De yn y Barri, yn cael cipolwg gwerthfawr ar y gwaith y maent yn ei wneud o ddydd i ddydd i gadw cymunedau yn ddiogel.
Mae’r profiad o gysgodi swyddogion yr wythnos hon yn digwydd yn sgil penderfyniad y Gweinidog i gael gwell dealltwriaeth o’r math o broblemau y mae’r uned ymateb i ddigwyddiadau yn delio â hwy wrth iddynt gael eu galw i ddigwyddiadau byw tra’u bod ar ddyletswydd.
Nid yw plismona yn fater datganoledig, ond mae gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol gyfrifoldeb dros ddiogelwch cymunedol. Oherwydd hynny, mae gan Lywodraeth Cymru a Phlismona yng Nghymru hanes hir a chynhyrchiol o weithio mewn partneriaeth gyda'r nod unfrydol o gadw Cymru yn ddiogel a gwasanaethu cymunedau.
Mae’r Gweinidogion hefyd wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ar draws Cymru, sy'n gyswllt hanfodol rhwng cymdogaethau a'r heddlu.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynnal cyllid ar gyfer 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ac yn darparu 100 arall dros dymor y Senedd hon. Mae'r cyllid yn dangos y pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar gymunedau, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.
Mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn cydweithio â swyddogion yr heddlu ac yn rhannu peth, ond nid y cyfan, o'u pwerau. Maent yn gweithredu fel llygaid a chlustiau i’r heddlu ar lawr gwlad, mae ganddynt awydd i ddatrys problemau a datblygu atebion hirdymor a chynaliadwy mewn perthynas â’r problemau hynny ac i feithrin perthynas yn lleol drwy fentrau amrywiol sy'n creu ymdeimlad o ddiogelwch mewn cymunedau.
Maent yn rhan hanfodol o blismona, sy’n sicrhau bod cymunedau yn saff ac yn ddiogel, maent yn gweithio gyda’r unigolion mwyaf agored i niwed, gan roi cyngor a chefnogaeth i'r cyhoedd am amrywiaeth eang o faterion diogelwch cymunedol.
Mae’r meysydd y mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn rhoi cefnogaeth i Swyddogion rheng flaen yr Heddlu â hwy yn cynnwys atal goryrru y tu allan i ysgolion, adrodd am fandaliaeth a lleihau ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: “Rwyf eisiau diolch i’r swyddogion yng Ngorsaf Heddlu y Barri am rannu eu profiadau â mi, ac am y gwaith pwysig a gwerthfawr y maent yn ei wneud bob dydd i’n cadw’n ddiogel.
“Mae plismona yn rhan mor bwysig o’n cymunedau. Mae Swyddogion yr Heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn chwarae rhan allweddol yn sicrhau bod pobl ym mhob rhan o Gymru yn teimlo’n ddiogel.
“Wedi cael amser gyda’r heddlu ar batrôl, rwy’n deall mwy am y gwahanol ddigwyddiadau y mae’r heddlu’n cael eu galw iddynt, a sut y maent yn perthyn i’r meysydd y mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb drostynt megis iechyd a gofal cymdeithasol.
“Ein bwriad yw sicrhau bod cymunedau yng Nghymru yn gryf ac yn ddiogel, a bod ganddynt yr adnoddau angenrheidiol i leihau’r gyfradd droseddu.”