Y Gweinidog yn gweld trawsnewidiad canol tref y Rhyl yn datblygu
Minister sees progress in Rhyl Town Centre Transformation work
Mae datblygiadau cyffrous yn digwydd ar draws canol tref y Rhyl wrth i brosiectau, gyda chefnogaeth cronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru ac a gyflwynir mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych, ddwyn ffrwyth.
Mae’r gronfa Trawsnewid Trefi yn cefnogi gwaith gwerth hyd at bron £25 miliwn yng nghanol tref y Rhyl, gan wella ac addasu adeiladau masnachol a phreswyl nad ydynt yn cael eu defnyddio’n ddigonol.
Ymwelodd Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths â rhai o'r prosiectau yng nghanol y dref gan gynnwys safle Marchnad y Frenhines lle mae'r hen adeilad adfeiliedig wedi'i ddymchwel ac mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ar gyfleuster newydd. Bydd hyn yn cynnwys neuadd farchnad dan do newydd i gynnwys ciosgau bwyd poeth, stondinau marchnad parhaol a dros dro a gofod ar gyfer digwyddiadau. Bydd hefyd yn helpu i adfywio rhan o'r dref nad yw'n cael ei defnyddio'n ddigonol.
Gwelodd y Gweinidog rai o'r ardaloedd y bwriedir eu datblygu ar y Stryd Fawr, gan gynnwys adnewyddu tri eiddo i ddarparu mannau busnes bach ar y llawr gwaelod ac unedau tai canolradd ar y lloriau uchaf.
Prosiect sydd wedi'i gwblhau yw Costigan's, yr hen dafarn, sydd bellach yn darparu llety busnes modern hyblyg o ansawdd uchel, yn ogystal â chaffi bach.
Dywedodd y Gweinidog: "Mae wedi bod yn wych gweld beth sy'n digwydd yma yn y Rhyl. Mae wedi bod yn gyfnod heriol iawn i ganol ein trefi ac mae eu hadfywio yn flaenoriaeth i ni. Mae gennym bolisi 'canol trefi'n gyntaf' sy'n golygu mai canol trefi ddylai fod yr ystyriaeth gyntaf wrth benderfynu ar leoliad gweithleoedd a gwasanaethau. Felly, mae adfywio cynaliadwy ein trefi yn gysylltiedig â buddsoddiadau a wnawn ar draws y llywodraeth, yn enwedig ym maes trafnidiaeth, tai, ysgolion a'r economi.
"Rydym am i ganol trefi fel y Rhyl fod yn fannau ffyniannus lle mae pobl yn byw, gweithio, siopa a mwynhau gweithgareddau hamdden. Rwyf wedi gweld heddiw sut y mae adeiladau adfeiliedig gynt wedi'u trawsnewid yn fannau busnes, a sut y bydd mwy o leoedd ar y Stryd Fawr yn dod yn lleoedd i fyw a gweithio ynddynt. Bydd hyn yn dod â bywyd newydd i ganol y dref.
"Rwy'n edrych ymlaen at weld y datblygiadau pellach yn y dref yn dwyn ffrwyth a'r effaith a gânt."
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Dinbych: "Rydym wedi gweld arian sylweddol yn cael ei fuddsoddi yn y sectorau hamdden a lletygarwch ar hyd y promenâd ac mae prosiectau'n dal i fynd rhagddynt yng nghanol y dref, yn arbennig datblygiad Adeilad y Frenhines.
"Ein gweledigaeth yw creu tref glan môr fodern, unigryw sy'n diwallu anghenion ei chymuned ac sy'n rhoi rheswm i bobl o'r Rhyl a'r tu allan i'r dref ymweld â hi. Mae trigolion a busnesau eisoes yn manteisio ar y cyfleoedd y mae prosiect Adfywio'r Rhyl wedi'u rhoi iddynt ond byddwn yn parhau i gydweithio â phartneriaid a'r gymuned leol i wireddu'r weledigaeth lawn."
Ar yr un diwrnod a ymwelodd â'r Rhyl, bu'r Gweinidog hefyd yn cadeirio Is-bwyllgor Cabinet Gogledd Cymru sy'n canolbwyntio'n benodol ar y rhanbarth.
Ers mis Mawrth 2020, mae £136 miliwn wedi'i ddarparu i awdurdodau lleol ledled Cymru gyda £100 miliwn ychwanegol wedi'i ymrwymo ar gyfer 2022-2025, ar gyfer adfywio a sicrhau twf cynaliadwy ein trefi drwy: ailddefnyddio adeiladau adfeiliedig; cynyddu amrywiaeth y gwasanaethau mewn trefi; creu mannau gwyrdd a gwella mynediad. Mae'r Rhyl wedi cael blaenoriaeth fel un o'r trefi/dinasoedd allweddol ledled Gogledd Cymru i elwa ar gyllid y gronfa Trawsnewid Trefi.