English icon English
Technoleg Technology

Y Gymraeg yn fwy parod am ddatblygiadau deallusrwydd artiffisial, diolch i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru

Welsh language better prepared for artificial intelligence developments, thanks to Welsh Government investment

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi gwaith arloesol i sicrhau lle amlycach i’r Gymraeg yn y dechnoleg rydyn ni’n ei defnyddio bob dydd, gan wneud ein hiaith yn fwy parod ar gyfer datblygiadau deallusrwydd artiffisial, yn ôl Gweinidog y Gymraeg ac Addysg heddiw.

Ers cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg ddiwedd 2018, mae Llywodraeth Cymru wedi creu a chomisiynu adnoddau a data i wella technoleg yn y Gymraeg. Mae hefyd wedi cefnogi datblygu technoleg llais yn Gymraeg, a datblygu’r Gymraeg mewn deallusrwydd artiffisial (AI).

Ymysg rhai o gyflawniadau’r Cynllun mae datblygu technoleg i droi Cymraeg llafar yn destun ysgrifenedig, creu lleisiau synthetig ar gyfer pobl sy’n colli’r gallu i siarad, datblygu cyfieithu peirianyddol arbenigol, a gweithio gyda’r cwmni y tu ôl i ChatGPT, OpenAI, i wella sut mae eu sgwrsfot mwyaf pwerus, GPT-4, yn prosesu’r Gymraeg.

Fel rhan o bartneriaeth Llywodraeth Cymru â Microsoft, maen nhw wedi cydweithio i greu cyfleuster cyfieithu ar y pryd o fewn cyfarfodydd Microsoft Teams. Mae hwn ar gael heb gost ychwanegol i’r sawl sydd â thrwydded Teams presennol. Mae gwaith yn parhau gyda Microsoft i ddatblygu'r cyfleuster hwn ymhellach gyda'r gobaith y gall hyn arwain at greu adnoddau tebyg a newydd ar gyfer ieithoedd sy’n cael eu siarad ledled y byd, yn seiliedig ar y gwaith yma yng Nghymru.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

“Ry’n ni am sicrhau bod unrhyw un yn gallu defnyddio’r Gymraeg mewn technoleg mewn mwy a mwy o sefyllfaoedd, heb i neb orfod gofyn neu fynd allan o’u ffordd am gael gwneud hynny.

“Tair thema’r Cynllun yn ôl yn 2018 oedd technoleg lleferydd Cymraeg, cyfieithu â chymorth cyfrifiadur, a deallusrwydd artiffisial sgwrsiol. Ry’n ni wedi cymryd y dasg o ddifrif, ac mae gwaith arloesol wedi ei wneud i sicrhau bod y Gymraeg wrth wraidd datblygiadau digidol.

“Rydyn ni wedi dod yn bell. Ond wrth gwrs mae technoleg yn esblygu. Ac wrth i hynny ddigwydd, byddwn ni’n parhau i sicrhau bod adnoddau technoleg Cymraeg yn esblygu hefyd.”

Nodiadau i olygyddion

Bydd y Gweinidog yn rhoi diweddariad llafar i Aelodau’r Senedd am weithredu’r Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg ar 20 Chwefror.

Bydd yr adroddiad terfynol ar y Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg ar gael yma fore Mawrth 20 Chwefror https://www.llyw.cymru/cynllun-gweithredu-technoleg-cymraeg-adroddiad-terfynol-2018-i-2024

Cysylltwch os hoffech gopi dan embargo cyn hynny.