Y nifer uchaf erioed o fusnesau bwyd yn ennill y sgôr hylendid uchaf ledled Cymru 10 mlynedd ers iddi ddod yn ofyniad cyfreithiol i arddangos sgoriau
Record number of food businesses achieving top hygiene ratings across Wales as mandatory display turns 10
Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, a Chadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yr Athro Susan Jebb, yn croesawu’r gwelliant sylweddol mewn sgoriau hylendid i fusnesau bwyd Cymru, a hynny 10 mlynedd ers iddi ddod yn ofyniad cyfreithiol i arddangos sgoriau.
Bellach mae gan 71% o fusnesau bwyd Cymru y sgôr hylendid uchaf o 5 – o gymharu â 44% o fusnesau10 mlynedd yn ôl – sy’n golygu mai dyma’r nifer uchaf erioed yng Nghymru.
Yn 2013, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i’w gwneud yn ofyniad cyfreithiol i arddangos sticeri sgoriau hylendid mewn mannau amlwg, fel drysau blaen a ffenestri busnesau bwyd.
Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wedi helpu i godi safonau hylendid busnesau bwyd ledled Cymru, gyda 96% o fusnesau bellach yn arddangos sgôr o ‘3’ neu uwch.
Mae sicrhau bod sgoriau hylendid i'w gweld yn glir wedi helpu i rymuso defnyddwyr i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch ble maen nhw’n prynu ac yn bwyta bwyd bob dydd, ond mae hefyd yn annog busnesau bwyd i wella eu safonau hylendid.
Mae timau awdurdodau lleol yn cynnal arolygiadau ac yn rhoi sgoriau i fusnesau bwyd, yn amrywio o 0-5.
Mae sgoriau hylendid da wedi bod yn fanteisiol i fusnesau hefyd – gan roi mantais gystadleuol i’r rhai sy’n dangos eu bod yn cymryd hylendid bwyd o ddifrif.
Mae ymchwil gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) hefyd wedi dangos bod safleoedd sydd â sgoriau uwch yn llai tebygol o gael brigiadau o achosion (outbreaks) o salwch a gludir gan fwyd.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:
“Mae pawb yng Nghymru yn haeddu mwynhau eu bwyd, a theimlo’n gwbl hyderus ei fod wedi cael ei baratoi mewn modd sy’n sicrhau hylendid – mae ei gwneud hi’n orfodol i fusnesau arddangos sgoriau wedi cyflawni hynny.
Mae’n fuddiol i ddefnyddwyr, a hefyd i fusnesau. Rwy’n falch iawn hefyd o weld bod nifer y busnesau bwyd yng Nghymru sydd â sgôr o ‘5’ yn uwch nag erioed
Rwy’n ddiolchgar am waith agos a chydweithredol awdurdodau lleol Cymru a'r Asiantaeth Safonau Bwyd, wrth helpu i weithredu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd statudol dros y 10 mlynedd diwethaf.
Mae’r ymgysylltiad rheolaidd â busnesau bwyd wedi bod yn hanfodol i lwyddiant y cynllun ac wedi helpu i godi safonau bwyd i’r fath lefelau."
Dywedodd yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd:
“Mae’n gwbl addas ein bod yn dathlu llwyddiant y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd fel un o gyflawniadau mwyaf arwyddocaol yr 21ain ganrif ym maes iechyd y cyhoedd.
Mae’r sticeri du a gwyrdd trawiadol sy’n cael eu harddangos mewn bwytai, caffis, archfarchnadoedd ac ar-lein, yn ffordd syml a thryloyw o roi sicrwydd i bobl bod bwyd yn cael ei baratoi a’i weini mewn ffordd lân a hylan, a bod y busnes yn bodloni ei ofynion deddfwriaethol ar gyfer hylendid bwyd.
Mae’r cynllun yn caniatáu i bobl bleidleisio gyda’u traed neu drwy glicio botwm a dewis y busnesau hynny sy'n cymryd hylendid bwyd o ddifrif.
Rwy’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu hymrwymiad i wneud hwn yn ofyniad gorfodol sydd wedi bod yn hanfodol i lwyddiant y Cynllun.
Edrychaf ymlaen at barhau â’n perthynas gydweithredol â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn dal i gael eu grymuso i wneud dewisiadau mwy gwybodus ynghylch ble maen nhw’n prynu ac yn bwyta bwyd bob dydd.”
Dywedodd Richard Holt, perchennog Melin Llynon yn Ynys Môn:
“I mi, mae sgôr uchaf yn adlewyrchu holl ymdrechion fy nhîm a minnau i fodloni’r safonau diogelwch a hylendid bwyd uchaf posib. Rwy’n falch iawn o’r 5 yn fy ffenestr.
Dylai unrhyw un sy’n ystyried dechrau busnes bwyd gysylltu â’u Swyddog Iechyd yr Amgylchedd a manteisio ar y cyngor a’r gefnogaeth y gall eu cynnig.
Mae fy Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yn ffynhonnell ddi-ben-draw o wybodaeth ac mae’r gefnogaeth y mae wedi’i rhoi i mi wedi bod yn hynod ddefnyddiol.”
Nodiadau i olygyddion
- Tuesday 28 November 2023 marks exactly 10 years since it was made a legal requirement in Wales to display food hygiene ratings in food businesses.
- For interviews with the Food Standards Agency, please contact: Sioned Fidler - 07799 897251/ Lowri Williams – 07867 537836
- In Wales, these ratings must be displayed in a prominent place such as on the food business’ front door or window. As well as via the Food Standards Agency (FSA) website: food.gov.uk.
- The FSA is the government department responsible for food safety in Wales, England and Northern Ireland. They work with the Welsh Government to set the standards for how the Food Hygiene Rating Scheme should be run in Wales and provide local authorities with guidance and support.
- The Royal Society for Public Health included the FHRS on the list of the top 20 public health achievements of the 21st century.
- The Food Hygiene Rating Scheme was voted the 13th best public health innovations in the 21st century by the Royal Society for Public Health, alongside the indoor smoking ban and the HPV vaccination for boys and girls.
- Research by FSA shows that foodborne illness outbreaks are twice as likely to occur at businesses with low ratings than in those with a rating of 3, 4 or 5, ultimately benefiting consumers.
- Evidence from Wales suggests that mandatory display increases the incentives for business to improve and maintain compliance.
- In September 2013, 44% of food businesses in Wales achieved the top rating of 5. This increased to 71.2.4% by October 2023
- 87% of food businesses in Wales had a rating of 3 or above in 2013 before the introduction of mandatory display – this has risen to 96.4% by October 2023.
- More information on the scheme: Food Hygiene Rating Scheme | Food Standards Agency