Y Pethau Pwysig yn cyflwyno profiadau cofiadwy
Brilliant Basics delivering memorable experiences
Mae'r haf prysur i Economi Ymwelwyr Cymru wedi dangos pwysigrwydd hanfodol seilwaith twristiaeth o ran darparu profiad o safon i ymwelwyr.
Er mwyn helpu sefydliadau i gynllunio ymlaen ar gyfer y blynyddoedd i ddod, mae Y Pethau Pwysig yn gronfa newydd ledled Cymru sy'n cefnogi sefydliadau cyhoeddus, y trydydd sector a sefydliadau dielw i gyflawni gwelliannau sylfaenol i seilwaith twristiaeth ar raddfa fach.
Mae 26 o brosiectau wedi bod yn llwyddiannus yn eu ceisiadau am gyllid ar gyfer y gronfa £2.4 miliwn ar gyfer 2021-2022.
Cefnogwyd prosiectau seilwaith twristiaeth ar raddfa fach gan awdurdodau lleol, parciau cenedlaethol a'r trydydd sector a - pob un yn helpu i sicrhau bod pob ymwelydd â Chymru yn cael profiad cadarnhaol a chofiadwy drwy gydol eu harhosiad.
Mae'r prosiectau'n cynnwys mannau gwefru cerbydau trydan, gwell cyfleusterau toiled a pharcio ceir, cyfleusterau Mannau Newid hygyrch a gwell arwyddion a phaneli dehongli - a siglen dros raeadr.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Yn dilyn yr haf prysur a gawsom yma yng Nghymru, rydym wedi gweld y rhan bwysig sydd gan amwynderau twristiaeth lleol ar wneud taith yn un gofiadwy. Mae'r cyfleusterau hyn yn aml yn mynd heb sylw ond maent yn rhan bwysig o brofiadau pobl pan fyddant yn ymweld â Chymru ac maent hefyd o fudd i'r rhai sy'n byw yn yr ardal. Rwy'n falch iawn ein bod yn gallu cefnogi'r sefydliadau hyn i wella profiad ymwelwyr yn eu hardaloedd."
Mae 'lle newid' modern gyda chyfleusterau i bobl ag anableddau, toiledau cyhoeddus wedi'u hadnewyddu a gwelliannau mynediad ar eu ffordd i atyniad Aqua Splash poblogaidd Glan Môr Aberafan.
Dywedodd y Cynghorydd Annette Wingrave, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Adfywio a Datblygu Cynaliadwy: "Y bwriad yw, unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, y bydd y toiledau cyhoeddus a'r lle newid yn y lleoliad hwn ar agor i'r cyhoedd drwy'r flwyddyn. Bydd hyn yn sicrhau bod Glan Môr Aberafan yn parhau i fod yn gyrchfan sy'n hygyrch i ymwelwyr anabl a'u teuluoedd drwy gydol y flwyddyn."
Bydd tri o safleoedd atyniadau ymwelwyr Dŵr Cymru yn elwa o gyllid Pethau Pwysig
Bydd Uned Lleoedd Newid hefyd yn flaenoriaeth i Dŵr Cymru fel rhan o brosiect i ddatblygu Hwb Beicio ar eu Safle Cwm Elan. Mae Dŵr Cymru hefyd wedi derbyn cyllid ar gyfer datblygu Siglen y Sgydau ac chelf Dŵr yn Llyn Brenig. Mae Siglen y Sgydau yn defnyddio cannoedd o jetiau dŵr i greu effaith rhaeadr y gellir ei rheoli sy'n cynnwys siglenni a gellir ei haddasu hefyd i fynd â defnyddwyr â symudedd cyfyngedig, gan gynnwys cadeiriau olwyn. Bydd Dŵr Cymru hefyd yn datblygu anturiaethau awyr agored i bawb yng Nghronfeydd Lliw gyda gwelliannau mynediad a meysydd parcio, gorsaf weithgareddau a thaflenni llwybrau natur yn ogystal â gosod offer chwarae naturiol.
Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry: "Gyda chynifer o bobl yn aros adref am eu gwyliau yr haf hwn, rydym wedi gweld mwy o bwysau mewn nifer o'n hatyniadau ymwelwyr a'n mannau prydferth lleol. Felly, rydym yn hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y cymorth gwerthfawr, a fydd yn ein helpu i wella cyfleusterau a darparu profiadau mwy cynhwysol i ymwelwyr o bob oed a gallu.”