Y Prif Swyddog Meddygol yn annog menywod beichiog i gael y brechlyn COVID
Chief Medical Officer encourages pregnant women to have COVID-19 vaccine
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, yn annog menywod beichiog i dderbyn y cynnig ar unwaith i gael eu brechu yn erbyn COVID. Mae hyn yn dilyn cynnydd yn nifer y menywod beichiog, nad ydynt wedi cael eu brechu, sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty yn dioddef salwch difrifol o ganlyniad i ddal COVID-19.
Mae Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd wedi argymell y dylai pobl gael y brechlyn gan ei fod yn un o’r dulliau gorau o amddiffyn yn erbyn haint difrifol.
Dywedodd Dr Atherton: “Os yw menyw yn dal COVID-19 yn ystod beichiogrwydd, mae yna risg sylweddol y bydd yn gorfod cael ei derbyn i’r ysbyty. Os ydych chi’n feichiog, er nad ydych yn fwy tebygol nac yn llai tebygol o ddal y feirws, mae tystiolaeth gynyddol y gallech fod mewn mwy o berygl o ddioddef salwch difrifol os ydych yn digwydd dal COVID-19, o gymharu â gweddill y boblogaeth. Mae hyn yn arbennig o wir yn ystod cyfnod olaf beichiogrwydd.
“Gall y brechlyn COVID-19 amddiffyn mamau a babanod rhag cael niwed diangen. Bellach mae llawer o brofiad ar draws y byd i ddangos bod y brechlyn hwn yn ddiogel ac yn effeithiol ym mhob cyfnod o feichiogrwydd. Felly, dylai menywod fanteisio ar y cyfle cyntaf i gael y brechlyn os ydynt yn bwriadu mynd yn feichiog neu eisoes yn feichiog.
“Hoffwn sicrhau menywod fod y brechlyn yn seiliedig ar wyddoniaeth sydd wedi bod yn ddiogel i fenywod beichiog ei defnyddio ers blynyddoedd, ac mae hynny’n cynnwys brechlynnau sydd eisoes yn cael eu rhoi yn ystod beichiogrwydd, fel y rheini yn erbyn y pas a’r ffliw. Nid yw’r brechlyn sy’n cael ei ddefnyddio fan hyn yn frechlyn byw, ac felly nid yw’n gallu rhoi’r feirws ichi.
“Gallwch gael y brechlyn COVID-19 ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd. Hoffwn annog pobl i gysylltu â’u bwrdd iechyd os nad ydyn nhw wedi manteisio ar eu cynnig. Mae’r dystiolaeth ddiweddaraf yn dangos mai’r brechlyn yw’r amddiffyniad gorau rhag COVID-19, ac mae gweithwyr proffesiynol meddygol yn cytuno â hynny yn llwyr.”