English icon English

Y Prif Weinidog i gyhoeddi uwchgynhadledd buddsoddi bwysig ar gyfer 2025

FM to announce major investment summit for 2025

Yn ddiweddarach heddiw, bydd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, yn cyhoeddi y bydd uwchgynhadledd buddsoddi bwysig yn cael ei chynnal yng Nghymru yn 2025.

Bydd y Prif Weinidog yn gwneud y cyhoeddiad pan fydd hi'n annerch Cinio Blynyddol CBI Cymru yng Nghaerdydd heno [dydd Iau 28 Tachwedd].

Daw'r digwyddiad yn dilyn yr Uwchgynhadledd Buddsoddi Rhyngwladol yn Llundain ym mis Hydref, lle cyfarfu buddsoddwyr rhyngwladol â Phrif Weinidog Cymru, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Prif Weinidog y DU a chynrychiolwyr o Lywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig.

Dywedodd Eluned Morgan:

"Rwy'n falch iawn o gyhoeddi uwchgynhadledd y flwyddyn nesaf, a fydd yn arddangos Cymru i arweinwyr diwydiant byd-eang a buddsoddwyr posibl. Bydd y digwyddiad yn fodd o dynnu sylw at y cyfleoedd niferus sydd gennym ni yma yng Nghymru a'n cryfderau mewn diwydiannau allweddol.

"Mae twf economaidd yn flaenoriaeth hollbwysig i mi, a bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi busnesau Cymru a helpu i ddenu hyd yn oed mwy o fuddsoddwyr i Gymru. Rydyn ni wedi gweld llawer o gyhoeddiadau cyffrous dros y misoedd diwethaf, sydd wedi creu cannoedd o swyddi, ac mae'n hanfodol ein bod yn cadw'r momentwm hwnnw i fynd y flwyddyn nesaf."

Croesawodd Katie Spackman, Cyfarwyddwr Cyswllt CBI Cymru, y cyhoeddiad, gan ddweud:

“Bydd gwireddu cenhadaeth Llywodraeth Cymru i dyfu’r economi’n dod o’r sector preifat yn llwyr. O leoliad daearyddol eithriadol ar gyfer twf gwyrdd, i’w chryfder mewn gweithgynhyrchu, cyllid a thwristiaeth, mae Cymru’n gyrchfan hynod ddeniadol i fuddsoddwyr byd-eang. Bydd yr uwchgynhadledd yn gyfle pwysig i roi Cymru ar y map ar gyfer cwmnïau rhyngwladol a harneisio pŵer busnes i hybu twf cynaliadwy.”