English icon English

Y Prif Weinidog Vaughan Gething yn cyhoeddi Cabinet Newydd Llywodraeth Cymru

First Minister Vaughan Gething announces new Welsh Government Cabinet

Mae Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi ei dîm Gweinidogol i weithio dros Gymru llawn optimistiaeth, uchelgais a chyfleoedd.

Dywedodd Vaughan Gething:

"Rwy’n eithriadol o falch o allu dwyn ynghyd lywodraeth o bob cwr o Gymru. Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd dros ein cenedl gyfan, a bydd gwleidyddiaeth flaengar wrth galon y Llywodraeth. Yn benodol, rwy’n falch o benodi Gweinidog dros Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni yn ystod 1,000 diwrnod cyntaf bywyd pob plentyn.

"Bydd y tîm Gweinidogol hwn yn ateb galwad y genhedlaeth nesaf i greu Cymru gryfach, decach, wyrddach. Byddwn yn gweithredu i gryfhau’r economi drwy roi cyfleoedd i bawb, a glynu’n gadarn wrth ein hymrwymiad i bontio’n deg at sero net. I adlewyrchu ein nod o sicrhau ffyniant gwyrdd, rydym wedi creu swydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg.

"Rwy’n credu mewn Cymru sy’n deall y gallwn ddathlu’n gwahaniaethau, ac ymfalchïo yn yr holl bethau sy’n ein tynnu ynghyd ac yn creu ein hunaniaeth. Er y bydd sawl her ar y ffordd o’n blaen, mae gennym gyfleoedd sy’n fwy na’r heriau hynny. Rwy’n uchelgeisiol am y gwaith y bydd y tîm hwn yn ei gyflawni i wneud Cymru’n lle gwell eto." 

Y Prif Weinidog

Vaughan Gething

Y Darpar Gwnsler Cyffredinol

Mick Antoniw

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg

Jeremy Miles

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Eluned Morgan

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet

Rebecca Evans

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio

Julie James

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Lynne Neagle

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth 

Ken Skates

Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Huw Irranca Davies

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol

Lesley Griffiths

Y Prif Chwip a’r Trefnydd

Jane Hutt

Y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Hannah Blythyn

Y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar

Jayne Bryant

Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol

Dawn Bowden