Y Prif Weinidog yn cyhoeddi enillydd y gystadleuaeth dylunio cerdyn Nadolig
Christmas card competition winner announced by First Minister
Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi cyhoeddi mai Taliesin Bryant, disgybl blwyddyn chwech yn Ysgol Gynradd Llannon yn Llanelli, yw enillydd ei gystadleuaeth dylunio cerdyn Nadolig flynyddol.
Daeth cannoedd o geisiadau i law ar gyfer y gystadleuaeth eleni, a oedd ar agor i ddisgyblion o flynyddoedd pump a chwech ledled Cymru.
Yn dilyn uwchgynhadledd COP26 yn Glasgow fis diwethaf, y thema ar gyfer cerdyn Nadolig eleni oedd Nadolig gwyrdd.
Cafodd y cynllun buddugol ei ddewis gan y Prif Weinidog a bydd yn cael ei ddefnyddio fel ei gerdyn Nadolig swyddogol ar gyfer 2021.
Mae’r Prif Weinidog yn anfon ei gerdyn Nadolig at filoedd o bobl ledled y byd, gan gynnwys y Frenhines, Arlywydd yr Unol Daleithiau, Joe Biden, a’r Dirprwy Arlywydd, Kamala Harris.
Yn ystod cyfarfod rhithiol â dosbarth Taliesin, clywodd y Prif Weinidog am yr ysbrydoliaeth y tu ôl i gynllun y cerdyn.
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Cefais fy mhlesio’n arw gan y cannoedd o geisiadau a ddaeth i law ac ansawdd y cynlluniau ar gyfer y gystadleuaeth eleni. Roedd yn anodd dewis enillydd ond roedd cynllun Taliesin yn sefyll allan. Roedd yn cyfuno themâu’r Nadolig a’r dyfodol gwyrdd rydyn ni am ei greu yng Nghymru.
“Hoffwn ddiolch i’r holl blant a gymerodd ran yn y gystadleuaeth eleni a dymuno Nadolig Llawen iawn iddyn nhw.”
Mae cerdyn Taliesin yn dangos dwylo yn mynd o amgylch y byd, sy’n cynrychioli sut y mae gan bobl yng Nghymru feddwl mawr o’r byd a sut y maen nhw eisiau helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
Dywedodd Wena Williams, athrawes yn Ysgol Llannon yn Llanelli:
“Roedd yn wych cael gwybod bod Taliesin wedi ennill y gystadleuaeth dylunio cerdyn Nadolig ac rwy’n gwybod bod ein holl ddisgyblion wedi mwynhau cymryd rhan.”