Prif Weinidog Cymru yn trafod y sefyllfa yn Wcráin tra ym Mrwsel ar gyfer ymweliad Dydd Gŵyl Dewi
First Minister of Wales discusses the situation in Ukraine while in Brussels for St David’s Day visit
Bydd y sefyllfa yn Wcráin ar frig yr agenda wrth i’r Prif Weinidog ymweld â Brwsel Ddydd Mercher ar gyfer cyfres o gyfarfodydd gyda diplomyddion a seneddwyr.
Trefnwyd y cyfarfodydd ym Mrwsel fel rhan o raglen o ddigwyddiadau a gynhaliwyd yr wythnos hon gan Lywodraeth Cymru i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ac i ailddatgan perthynas Cymru â chenhedloedd a rhanbarthau allweddol Ewrop.
Yn ystod yr ymweliad, bydd Mark Drakeford yn trafod y camau a gymerwyd yng Nghymru i ymateb i ymosodiad creulon Rwsia ar Wcráin.
Mae Cymru’n barod i groesawu ffoaduriaid o Wcráin ac mae asesiadau ar y gweill i weld pa mor barod yw’r awdurdodau i dderbyn dinasyddion Wcráin sy’n ffoi rhag y rhyfel.
Mae gwaith ar y gweill i fesur i ba raddau y mae cysylltiad rhwng cronfeydd pensiwn llywodraeth leol yng Nghymru a buddsoddiadau a chynhyrchion ariannol yn Rwsia.
Bydd Llywodraeth Cymru yn dyrannu £4m mewn cymorth dyngarol ar gyfer Wcráin, drwy gyfuniad o gymorth ariannol uniongyrchol a chyfarpar meddygol.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
“Rwy’n eithriadol o bryderus am y sefyllfa arswydus a dychrynllyd yn Wcráin. Mae’r gwrthdaro hwn yn digwydd yn Ewrop, ond ychydig y tu hwnt i ffiniau’r Undeb Ewropeaidd.
“Wrth i’r gwrthdaro ddatblygu yn y tymor byr a’r tymor canolig, mae’n debygol y bydd miliynau o bobl yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol mewn sawl ffordd am flynyddoedd i ddod.
“Mae trefn strategol Ewrop wedi newid ac efallai na fydd yn gwbl sefydlog am beth amser eto.
“Mae hunaniaeth Ewropeaidd Cymru yn bwysig nawr, efallai mwy nag erioed. Hoffwn bwysleisio ein hunaniaeth Gymreig fel gwlad Ewropeaidd sy’n rhannu gwerthoedd rhyddid, rhyddid i lefaru a ffordd o fyw heddychlon yn Ewrop.
“Rwyf eisiau adeiladu ar ein perthynas waith gryf gyda’r Undeb Ewropeaidd i ddyfnhau ein partneriaethau sefydledig gydag Aelod-wladwriaethau a Rhanbarthau Ewropeaidd, ac adeiladu ar y partneriaethau hyn.”