English icon English

Y Senedd yn barod i bleidleisio ar Gyllideb Llywodraeth Cymru

Senedd set to vote on Welsh Government Budget

Mae Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, wedi dweud mai diogelu gwasanaethau cyhoeddus a'r bobl fwyaf agored i niwed sydd wrth wraidd Cyllideb Llywodraeth Cymru.

Daw hyn cyn dadl ar Gyllideb Derfynol 2023-24 a gynhelir yn y Senedd yn ddiweddarach heddiw [Dydd Mawrth 7 Mawrth].

Ymhlith y dyraniadau allweddol yn y Gyllideb y mae £277m ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol, £165m ychwanegol ar gyfer y GIG, a phecyn cymorth gwerth £460m dros ddwy flynedd ar gyfer busnesau.

Bydd y Senedd hefyd yn cynnal dadl ar y Setliad Llywodraeth Leol a Chyfraddau Treth Incwm Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu nad nawr yw'r amser i godi'r dreth hon, gan fod llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd ymdopi â chwyddiant a biliau ynni uwch.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

“Mae diogelu gwasanaethau cyhoeddus wrth wraidd ein Cyllideb. Mae ein buddsoddiad mewn llywodraeth leol yn cefnogi'r ysgolion, y gofal cymdeithasol a'r gwahanol wasanaethau hanfodol y mae ein cynghorau yn eu darparu, ac mae ein buddsoddiad yn y GIG yn adlewyrchu ein hymrwymiad i fynd i'r afael â'r pwysau sy'n parhau ar y gwasanaeth iechyd.

“Rydyn ni'n gwybod hefyd fod nifer o bobl yn ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd, a dyna pam mae'r Gyllideb hon yn rhoi blaenoriaeth i ddiogelu'r bobl fwyaf agored i niwed.  Rydyn ni wedi buddsoddi arian ychwanegol yn y Gronfa Cymorth Dewisol sy'n rhoi cymorth brys i bobl sy'n wynebu trafferthion ariannol, ac rydyn ni'n parhau i gefnogi cynlluniau sy'n rhoi arian yn ôl i bobl, fel Prydau Ysgol am Ddim.

“Rydyn ni wedi gallu gwneud yr ymrwymiadau gwario hyn er gwaethaf y pwysau ariannol rydyn ni'n eu hwynebu, a hynny heb godi'r dreth incwm. Mae hyn yn golygu na fydd baich treth ychwanegol ar bobl sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd, ar ben y pwysau ariannol y mae llawer o aelwydydd eisoes yn eu hwynebu.

“Nod y Gyllideb hon yw diogelu gwasanaethau cyhoeddus a'r bobl fwyaf agored i niwed, ac rwy'n edrych ymlaen at y ddadl yn y Senedd yn nes ymlaen heddiw.”

Lluniwyd y Gyllideb yng nghyd-destun pwysau ariannol sylweddol, gyda chwyddiant yn lleihau gwerth Cyllideb Llywodraeth Cymru 2023-24 o hyd at £1bn. At hynny, mae gostyngiadau cyllid Llywodraeth y DU ar ôl ymadael â'r UE wedi arwain at ddiffyg cyllid o fwy na £1.1bn rhwng 2021 a 2025.

Mae'r Canghellor yn bwriadu cyhoeddi Cyllideb y Gwanwyn ddydd Mercher 15 Mawrth.

Dywedodd Rebecca Evans:

“Yng Nghyllideb y Gwanwyn yr wythnos nesaf, rydyn ni am weld cyllid yn cael ei dargedu unwaith eto at bobl sydd ei angen fwyaf.

“Mae cwmnïau ynni yn cyhoeddi'r lefelau elw uchaf a welwyd erioed, ond eto bydd biliau ynni yn mynd yn uwch o fis Ebrill, ac mae pobl yn parhau i wynebu dewisiadau hynod anodd ynghylch pethau hanfodol. Rhaid i Lywodraeth y DU edrych ar ei Threth Ffawddelw eto er mwyn cau unrhyw fylchau ynddi, a defnyddio'r adnoddau ychwanegol a fydd ar gael o ganlyniad i'r ffaith bod cost y cymorth prisiau ynni yr oedd yn ei roi i bobl yn llai nag y rhagwelwyd, er mwyn cadw lefel y Gwarant Prisiau Ynni at £2500 o fis Ebrill.

“Oherwydd y ffordd y mae cyllid yn gweithio ledled y Deyrnas Unedig, Llywodraeth y DU sydd â'r pwerau i allu cymryd y camau pwysicach ar gyllid y GIG, cyflogau yn y sector cyhoeddus a chymorth gyda chostau byw. Rwyf wedi pledio'r achos hwn i'r Canghellor cyn Cyllideb yr wythnos nesaf, ac rwy'n parhau i bwysleisio bod angen buddsoddi.”