Y Senedd yn cymeradwyo ehangu’r defnydd o bàs COVID y GIG
Senedd approves extension of NHS COVID pass
Mae Aelodau'r Senedd wedi cymeradwyo ehangu’r defnydd o bàs COVID y GIG i gynnwys sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd yng Nghymru.
Yn dilyn y bleidlais, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:
"Rwy'n falch fod y defnydd ehangach wedi’i gymeradwyo heddiw yn sgil y bleidlais. Nid yw Covid wedi diflannu - mae’r achosion yn parhau'n uchel ac mae angen inni barhau i gymryd camau i ddiogelu Cymru. Un mesur ymhlith llawer yw pàs COVID y GIG, i helpu i gadw busnesau’n agored a helpu i reoli lledaeniad y feirws yr un pryd.
"Nid yw'r penderfyniad i'w cyflwyno wedi'i wneud ar chwarae bach. Lleoliadau dan do yw’r rhai sydd dan sylw, lle mae nifer fawr o bobl yn crynhoi yn agos at ei gilydd am gyfnodau estynedig.
"Ers 11 Hydref, mae'n ofynnol i bobl ddangos pàs COVID y GIG neu ganlyniad prawf llif unffordd negatif diweddar i fynd i glybiau nos a lleoliadau tebyg ac i ddigwyddiadau, ac mae'r drefn yn gweithio'n dda. Rydyn ni wedi cael sylwadau cadarnhaol gan amryw o fusnesau a threfnwyr digwyddiadau mawr, gan gynnwys ar ôl y gemau rygbi rhyngwladol diweddar. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r sectorau sy'n gweithredu'r cynllun i’w cefnogi orau y gallwn.”
Yn dilyn y bleidlais bydd angen pàs COVID y GIG mewn sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd o ddydd Llun 15 Tachwedd ymlaen.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://llyw.cymru/cael-eich-pas-covid-y-gig