Y Senedd yn pleidleisio i wrthod cydsyniad i Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir
Senedd votes to refuse consent for Retained EU Law Bill
Mewn pleidlais heddiw [dydd Mawrth 28 Mawrth], mae’r Senedd wedi gwrthod yn ffurfiol i gydsynio i Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir, sy’n fil gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn Llywodraeth Cymru, fod y ddeddfwriaeth arfaethedig yn bygwth safonau bwyd, mesurau diogelu’r amgylchedd, hawliau gweithwyr, a sicrwydd i fusnesau a defnyddwyr.
Mae Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir yn ceisio diddymu neu ddisodli dros 2,400 o ddarnau o gyfraith flaenorol yr UE a gafodd eu trosi’n ddeddfwriaeth ddomestig fel rhan o’r ymadawiad â’r UE. Byddai’r cynlluniau yn y Bil yn golygu y byddai’r rhan fwyaf o’r cyfreithiau hyn yn diflannu o lyfr statud y DU erbyn diwedd eleni oni bai bod camau’n cael eu cymryd.
Wrth siarad ar ôl y bleidlais, dywedodd Mick Antoniw:
“Heddiw, mae’r Senedd wedi anfon neges uchel a chlir – mae Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir yn ddrwg i Gymru a dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei dynnu’n ôl.
“Byddai’r Bil yn newid llwyth o safonau cyfreithiol heb unrhyw syniad clir o ganlyniadau hynny. Mae hyn yn ffordd annoeth ac anghyfrifol o ymdrin â safonau hanfodol sy’n gwella ansawdd bywyd pobl.
“Byddai hefyd yn rhoi awdurdod i Weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddeddfu mewn meysydd datganoledig. Mae Senedd Cymru a Senedd yr Alban wedi’i gwneud yn glir bod sathru fel hyn ar y setliad datganoli, a sefydlwyd yn ddemocrataidd, yn annerbyniol.
“Rwy’n croesawu canlyniad y bleidlais hon a byddaf yn parhau i sefyll dros Gymru drwy wrthwynebu’r ddeddfwriaeth hon.”
Mae pleidleisiau Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn cael eu cynnal pan fo Llywodraeth y DU yn dymuno deddfu ar bwnc sydd wedi’i ddatganoli. Mae confensiwn cyfansoddiadol yn ei gwneud yn ofynnol i Senedd Cymru gydsynio i’r ddeddfwriaeth cyn y gellir ei phasio yn San Steffan. Ynghyd â Senedd Cymru, mae Senedd yr Alban wedi pleidleisio i atal cydsyniad ar gyfer Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir.
Mae’r Bil ar hyn o bryd yn y cyfnod adrodd yn Nhŷ’r Arglwyddi fel rhan o’r broses graffu.