Y Tafod Glas: Ceidwaid da byw yng Nghymru yn cael eu hannog i weithredu
Bluetongue: Livestock keepers in Wales urged to take action
- Mae Llywodraeth Cymru yn annog ffermwyr a cheidwaid da byw ledled Cymru i wirio am arwyddion o Tafod Glas (BTV-3), wrth i achosion barhau i gynyddu yng Nghymru a Lloegr.
- Gall da byw symud yn rhydd rhwng Cymru a Lloegr ers i'r Parth Cyfyngedig Cymru gyfan ddechrau ym mis Tachwedd 2025, felly dylai ceidwaid wirio statws y Tafod Glas anifeiliaid cyn eu prynu neu eu symud.
- Dylai ceidwaid gymryd tri cham: gwirio statws y Tafod Glas anifeiliaid newydd, siarad â'u milfeddyg am frechu, a rhoi gwybod am achosion a amheuir yn brydlon i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).
Mae ffermwyr a cheidwaid da byw ledled Cymru yn cael eu hannog i wirio am arwyddion o'r Tafod Glas, i roi gwybod am unrhyw achosion posibl i APHA ac i ystyried brechu, wrth i ragor o achosion BTV-3 gael eu cadarnhau yng Nghymru a Lloegr.
Ers i'r Parth Cyfyngiadau Cymru gyfan gael ei gyflwyno ym mis Tachwedd 2025, caiff da byw symud yn rhydd rhwng Cymru a Lloegr heb gyfyngiadau. Mae hyn yn ei gwneud yn bwysicach nag erioed i geidwaid wirio statws Tafod Glas unrhyw anifeiliaid cyn eu prynu neu eu symud.
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine:
"Rydyn ni bellach yn y cyfnod trosglwyddo gweithredol ar gyfer y Tafod Glas, ac mae rhagor o achosion o BTV-3 mewn gwartheg a defaid yn dod i'r amlwg mewn gwahanol rannau o Gymru, yn ogystal ag yn Lloegr, yn enwedig siroedd y de-orllewin.
"Mae prynu da byw o ffynonellau diogel yn hanfodol. Cynghorir ceidwaid i ystyried statws Tafod Glas da byw newydd, fel nad ydych yn prynu rhywbeth annymunol.
"Mae'n parhau i fod yn bwysig i geidwaid da byw siarad â'u milfeddyg ac ystyried brechu rhag y Tafod Glas, gan mai dyma'r ffordd orau o amddiffyn buchesi a diadelloedd rhag effeithiau'r clefyd. Byddwch ar eich gwyliadwriaeth am arwyddion o'r Tafod Glas a rhoi gwybod i APHA yn brydlon am unrhyw achosion posibl."
Cynghorir ceidwaid i gymryd tri cham ymarferol i amddiffyn eu buchesi a'u diadelloedd, gan dynnu ar y cyngor hwn:
- Yn gyntaf, gwiriwch statws Tafod Glas unrhyw anifeiliaid newydd cyn eu prynu, er mwyn peidio â dod â'r clefyd i'ch fferm yn ddiarwybod.
- Yn ail, siaradwch â'ch milfeddyg am frechu rhag y Tafod Glas, sy'n parhau i fod y ffordd fwyaf effeithiol o amddiffyn buchesi a diadelloedd rhag effeithiau'r clefyd.
- Wedyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth i edrych amdano a gwirio am arwyddion o'r Tafod Glas yn eich stoc. Rhowch wybod am unrhyw achosion posibl i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn ddi-oed.