Ychwanegu asid ffolig at flawd i atal namau geni
Folic acid added to flour to prevent birth defects in Wales
Bydd asid ffolig yn cael ei ychwanegu at flawd i amddiffyn cannoedd o fabanod rhag anableddau difrifol bob blwyddyn.
Ond mae prif feddyg Cymru yn pwysleisio bod atchwanegiadau dyddiol yn dal yn bwysig.
Bydd cyfraith newydd yn ei gwneud yn ofynnol i flawd nad yw'n flawd gwenith cyflawn gael ei atgyfnerthu ag asid ffolig o ddiwedd 2026 ymlaen.
Bydd hyn yn helpu i atal tua 200 o achosion o nam ar y tiwb nerfol mewn babanod bob blwyddyn.
Mae nam ar y tiwb nerfol yn gallu atal yr ymennydd, yr asgwrn cefn a llinyn asgwrn y cefn rhag datblygu'n iawn yn y groth.
Gall hyn achosi cyflyrau ar yr asgwrn cefn sy'n cyfyngu ar fywyd, fel spina bifida neu anenceffali.
Cyn beichiogi, ac yn ystod 12 wythnos gyntaf y beichiogrwydd, mae menywod yn cael eu cynghori i gymryd atchwanegiadau asid ffolig i amddiffyn eu babanod rhag namau difrifol.
Ond nid yw tua hanner yr achosion o feichiogrwydd wedi'u cynllunio, ac mae arbenigwyr yn dweud mai dim ond rhai menywod sy'n cymryd y tabledi dyddiol.
Bydd ychwanegu asid ffolig at fwyd sy'n cynnwys blawd – fel bara – yn helpu i leihau nifer yr achosion o feichiogrwydd sy'n cael eu heffeithio gan namau ar y tiwb nerfol yn ogystal â gwella iechyd cyffredinol y boblogaeth.
Mae calsiwm, haearn a rhai fitaminau B eisoes yn cael eu hychwanegu at flawd yn y DU.
Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Syr Frank Atherton:
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi'r dechrau gorau, iachaf i fywyd i blant.
"Mae atgyfnerthu blawd ag asid ffolig yn ffordd syml ac effeithiol o leihau namau ar y tiwb nerfol a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i lawer o fywydau.
"Ond mae'n bwysig bod menywod sy'n feichiog, neu a allai ddod yn feichiog, yn dal i ddilyn y cyngor i gymryd atchwanegiad asid ffolig bob dydd.
"Mae cymryd 400 microgram o asid ffolig, cyn ac yn ystod 3 mis cyntaf y beichiogrwydd, yn gam pwysig i amddiffyn babanod rhag cyflyrau sy'n peryglu bywyd.
"Gall namau ar y tiwb nerfol gael effaith ofnadwy ar ddisgwyliad oes, felly gallai'r cam syml hwn achub bywydau ledled Cymru."
Dywedodd Kate Steele, Prif Swyddog Gweithredol Shine, sef yr elusen genedlaethol sy'n helpu pobl y mae anenceffali, spina bifida a hydroseffalws wedi effeithio ar eu bywydau:
"Mae hyn yn newyddion gwych.
"Mae Shine wedi bod ar flaen y gad yr ymgyrch hon ynglŷn â gorfodi ychwanegu asid ffolig at flawd ers dros 30 o flynyddoedd, pan gafodd ymchwil ei chyhoeddi yn dangos y gallai hyn leihau'r siawns o achosion o feichiogrwydd yn cael eu heffeithio gan namau ar y tiwb nerfol fel anenceffali, un o'r prif resymau dros golli babi, a spina bifida.
"Bydd y cam hwn yn golygu y bydd rhaid i lawer llai o deuluoedd wynebu'r trawma o ddiagnosis i fabi heb ei eni a allai fod yn ddiagnosis angheuol neu'n un a fyddai'n effeithio ar ei fywyd.
"Mae hon yn garreg filltir bwysig, ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith i basio'r ddeddfwriaeth hon".
Nodiadau i olygyddion
- This policy change is being implemented as part of the review of the Bread and Flour Regulations (BFR), led by The UK Government Department for Environment Food & Rural Affairs (DEFRA- England), The Food Standards Agency (FSA Wales and N. Ireland) and Food Standards Scotland (FSS). Legislation was laid in England on 14th November 2024, with equivalent legislation to be laid shortly in Scotland, Northern Ireland and Wales. Industry has a 24-month transition period to fully implement the changes by December 2026.
- Currently, UK guidelines recommend that women who could become pregnant take a daily supplement of 400 micrograms of folic acid before conception and up until the 12th week of pregnancy to reduce the risk of NTD-affected pregnancies. This advice will continue following the fortification of flour with folic acid. Fortification of flour with folic acid is intended as a population measure to support, not replace, current supplementation advice for individuals.
- Shine - Spina Bifida & Hydrocephalus