
Ydych chi’n gymwys i hawlio hyd at £200 i helpu gyda chostau ysgol?
You could be eligible for up to £200 to help with school costs
Mae hyd at £200 ar gyfer pob dysgwr ar gael i helpu gyda chostau'r diwrnod ysgol, ac mae'r cyfnod i hawlio ar agor.
Mae'r Grant Hanfodion Ysgol ar gael i deuluoedd ar incwm is ac sy'n gymwys i gael budd-daliadau penodol. Mae’r ysgol hefyd yn cael cyllid ychwanegol o ganlyniad i hawlio'r grant hwn.
Gall teuluoedd cymwys wneud cais am grant o £125 ar gyfer pob plentyn y flwyddyn. A gall teuluoedd â phlant sy'n dechrau blwyddyn 7 wneud cais am £200 i helpu gyda chostau cynyddol sy'n gysylltiedig â dechrau yn yr ysgol uwchradd. Mae pob plentyn sy'n derbyn gofal yn gymwys i gael y grant hwn.
Gellir defnyddio'r Grant Hanfodion Ysgol ar gyfer hanfodion ysgol fel gwisg ysgol, gweithgareddau ysgol, citiau chwaraeon a deunyddiau ysgrifennu. Mae £62.5m wedi'i wario ers i'r cynllun gael ei gyflwyno yn 2018, ac yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn unig cafodd dros 170,000 o deuluoedd eu helpu.
Dywedodd Jade, sy'n rhiant gyda phlentyn ym mlwyddyn pedwar yn Ysgol Gynradd Bryn Celyn:
"mae'r grant yn bwysig iawn i sicrhau bod y plant yn teimlo'n rhan o'r tîm yn yr ysgol. Byddai'n amhosibl i rai rhieni gael gwisg ysgol heb y grant. Hyd yn oed os ydych chi'n meddwl nad ydych yn gymwys, rhowch gynnig arno."
Wrth ymweld ag Ysgol Gynradd Bryn Celyn yng Nghaerdydd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
"Wrth i deuluoedd barhau i deimlo'r pwysau o gostau byw cynyddol, mae ein Grant Hanfodion Ysgol yn cynnig cymorth hanfodol lle mae ei angen. Ni ddylai unrhyw blentyn golli allan ar addysg oherwydd y gost. Ac mae'r grant hwn yn sicrhau bod modd i bob plentyn gael gwisg ysgol, a'r llyfrau, offer a chyfarpar sydd eu hangen arnynt i ddysgu.
"Trwy roi’r cymorth hwn a chael gwared ar rwystrau ariannol, rydyn ni’n creu cyfleoedd tecach i bob dysgwr lwyddo yn yr ysgol."
Mae'r cyfnod i wneud cais ar gyfer cynllun 2025 i 2026 wedi agor bellach, a bydd yn cau ar 31 Mai 2026.
Ewch ati i wirio a ydych chi'n gymwys ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol yma. Mae'n bwysig gwirio a ydych chi’n gymwys, hyd yn oed os yw' eich plentyn yn cael Prydau Ysgol Am Ddim o dan y cynllun sydd ar gael i holl blant ysgolion cynradd yng Nghymru.