English icon English
Dawn Bowden TD 7886

Ymateb i ddata sydd wedi’u cyhoeddi am deithiau domestig dros nos yng Nghymru

Response to the publication of the Wales Domestic Overnight Trips

 

Gan ymateb i ffigurau twristiaeth a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae’r ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn rhoi darlun o arosiadau dros nos yng Nghymru o farchnad ddomestig y DU, sef prif ffynhonnell ymwelwyr i Gymru. 

“Mae’n newyddion ardderchog, rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021 a 2022, y bu cynnydd o 13% yn nifer y teithiau a wnaed yng Nghymru, a chynnydd o 35% yn yr arian a wariwyd yn ystod yr un cyfnod yn 2022. Bu cynnydd yn y gwariant fesul taith ar draws pob un o wledydd Prydain Fawr, er y bydd hynny, wrth gwrs, wedi’i sbarduno’n rhannol gan gostau uwch.

“Yn ogystal, mae’r amcangyfrifon ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023 hefyd yn edrych yn obeithiol. Mae’r ffigurau amcangyfrifedig yn dangos y bu 1.74 miliwn o deithiau a bod £341 miliwn wedi cael ei wario yng Nghymru yn ystod tri mis cyntaf 2023 gan ymwelwyr o’r DU sydd wedi aros dros nos yng Nghymru.

“Mae’n gadarnhaol, o gymharu â’r cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Mawrth yn 2022, fod amcangyfrifon yn dangos bod nifer y teithiau a wnaed yng Nghymru yn 2023 4% yn uwch, a bod y gwariant 35% yn uwch.

“Mae’n galonogol gweld y canlyniadau hyn ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y duedd bositif yn parhau.

“Mae ymwelwyr domestig dros nos wedi chwarae rhan bwysig iawn yn yr economi ymwelwyr yng Nghymru erioed, gyda mwy na 90% o ymwelwyr yn dod o leoedd o fewn Cymru a gweddill y DU.”

“Mae Croeso Cymru wedi ymrwymo i farchnata ystwyth, wedi’i lywio gan wybodaeth am gwsmeriaid ac yn rhoi sylw i’r diwylliant, y tirweddau a’r anturiaethau unigryw a gynigir yng Nghymru. Eleni, mae hynny’n cynnwys bachu ar gyfleoedd ar lefel ryngwladol i fanteisio ar yr ymwybyddiaeth gynyddol o Wrecsam, a Chymru yn sgil hynny, yn ogystal â chyfleoedd ar lefel genedlaethol, i roi sylw i hyd a lled y profiadau sydd ar gael i ymwelwyr â Chymru, a’i thrigolion.