Ymateb i gyhoeddiad Nexperia
Response to Nexperia announcement
Wrth ymateb i gyhoeddiad Nexperia, dywedodd Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething:
"Mae'r cyhoeddiad heddiw gan Nexperia yn peri pryder mawr a bydd yn ergyd i'w weithlu dawnus yng Nghasnewydd.
"Mae Llywodraeth Cymru yn uchelgeisiol ar gyfer y diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd yn ne Cymru. Byddwn yn parhau i'w ddatblygu ymhellach gyda chwmnïau mawr sy'n buddsoddi yn y clwstwr. Ein nod yw parhau i wneud hynny ochr yn ochr â Llywodraeth y DU bod hynny'n gweithredu fel partner dilys.
"Fodd bynnag, rydym wedi rhybuddio'n gyson bod canlyniadau oedi ac a diffyg penderfyniad gan Lywodraeth y DU ynghylch gwerthiant posib Newport Wafer Fab. Roedd Strategaeth Lled-ddargludyddion diweddar Llywodraeth y DU yn brin o'r uchelgais y dylem fod yn ei osod ar gyfer y sector ac ni wnaeth sylwadau gan weinidog yn y DU ynglŷn â'r clwstwr yn Ne Cymru ddim i adfer yr hyder sydd ei angen arnom.
"Unwaith eto, rydym yn ailadrodd ein galwadau ar Lywodraeth y DU i drin gwerthu Newport Wafer Fab fel blaenoriaeth hanfodol i sector sydd - ac a fydd yn parhau i fod - yn llwyddiant mawr i economi Cymru a'r DU yn ehangach.
"Mae'n hanfodol bod gan unrhyw berchennog newydd y busnes y modd a'r bwriad i fuddsoddi yn y safle cyn gynted â phosibl. Yn y cyfamser, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth a chefnogaeth i'r holl weithwyr y mae'r cyhoeddiad heddiw yn effeithio arnynt."