English icon English

Ymateb i gyhoeddiad Vishay

Response to Vishay's announcement on Newport's Wafer Fab

Wrth ymateb i gyhoeddiad Vishay, dywedodd Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething:

"Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad bod Vishay yn buddsoddi yn y clwstwr lled-ddargludyddion sy’n ffynnu yng Nghasnewydd. Mae hyn yn enghraifft wych o gryfder economaidd Cymru a’i gyrhaeddiad wirioneddol fyd-eang wrth ddenu buddsoddiad byd-eang mawr.

“Mae disgwyl i'r galw byd-eang am led-ddargludyddion ffrwydro yn y blynyddoedd i ddod ac mae Casnewydd mewn sefyllfa berffaith i droi'r twf hwnnw'n yrfaoedd mwy hirdymor o safon.  Mae'r gweithlu medrus ymroddedig sydd eisoes gan Gymru, gydag ymrwymiad cadarn gan bartneriaid academaidd, busnes, llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru, yn gwneud hwn yn lle gwych, uchelgeisiol i fuddsoddi ynddo.

"Rydym yn falch o weld bwriad Vishay i dyfu'r gweithlu a buddsoddi symiau sylweddol pellach yn y cyfleuster yng Nghasnewydd.

"Dylai hyn ddod â chyfnod o ansicrwydd i ben ac rydym yn edrych ymlaen at weld Llywodraeth y DU yn ymrwymo i gefnogi safle Casnewydd yn unol â Strategaeth Lled-ddargludyddion y DU.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn y diwydiant ac wedi’i hyrwyddo am sawl blwyddyn ac rydym yn croesawu bwriad Vishay i weithio mewn partneriaeth gyda ni ac aelodau'r clwstwr. Rwy’n bwriadu cyfarfod â’r cwmni heddiw i drafod ei gynlluniau.

"Cyhoeddais ddoe ein bod yn barod i weithio gyda Llywodraeth y DU i sefydlu Parth Buddsoddi yn Ne-ddwyrain Cymru sy’n gallu darparu cymorth pellach i’r maes twf allweddol hwn."