English icon English

Ymateb Llywodraeth Cymru i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru

Welsh Government response to latest NHS Wales performance data

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Fis Ebrill y llynedd, gwnaethom osod targed i gael gwared â nifer y llwybrau cleifion sy’n aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf erbyn 2022. Roeddem yn gwybod y byddai’n heriol, ond roeddem am weld byrddau iechyd yn canolbwyntio eu hymdrechion ar hyn. Rydym yn siomedig na chafodd y targed uchelgeisiol hwn, na osodwyd yn Lloegr, ei gyflawni."

"Byddwn yn parhau i bwyso ar fyrddau iechyd i ganolbwyntio ar yr achosion hynny sy’n aros hiraf, ar ôl delio â’r achosion brys.

Mis Rhagfyr oedd un o’r misoedd anoddaf yn hanes y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gyda chyfraddau uchel o covid a’r ffliw, galw enfawr yn sgil pryderon am Strep A ac effaith gweithredu diwydiannol ar weithgarwch.

Er gwaetha’r pwysau, mae cynnydd yn parhau i gael ei wneud o ran gofal a gynlluniwyd a gofal mewn argyfwng yn y GIG yng Nghymru. Mae ystadegau swyddogol yn dangos bod bron i 320,000 o ymgyngoriadau+ wedi’u cynnal ym mis Rhagfyr mewn ysbytai yn unig ac mewn un wythnos ym mis Rhagfyr cafodd gofal sylfaenol (meddygfeydd ac ati) gysylltiad â thros 400,000 o gleifion. Diolch i ymdrechion rhagorol ein staff yn y GIG, rydym yn falch o weld y gwnaeth nifer y llwybrau cleifion ostwng am y trydydd mis yn olynol, ond yn Lloegr bu'r rhain yn cynyddu.

“Rydym hefyd yn falch bod cynnydd yn dal i gael ei wneud o safbwynt yr achosion sy’n aros hiraf ac mae nifer yr achosion sy’n aros dwy flynedd am driniaeth wedi gostwng am y nawfed mis yn olynol – gostyngiad o 36% ers yr uchafbwynt ym mis Mawrth. Mewn sawl maes arbenigedd, llwyddwyd i gael gwared yn llwyr â’r achosion a oedd yn aros dwy flynedd, ond mae yna saith maes arbenigedd lle mae’r niferoedd sy’n aros yn annerbyniol o hir.

“Rydym yn parhau i bwyso ar fyrddau iechyd i ganolbwyntio ar y meysydd hynny lle ceir y rhestrau hiraf ac i egluro sut maent yn bwriadu cyrraedd safonau perfformiad a welir mewn mannau eraill yn y DU.

“Er y methwyd â chyrraedd y targed cleifion allanol, gwnaeth nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf ostwng 12.1% ym mis Rhagfyr o gymharu â’r mis blaenorol, gan leihau am y pedwerydd mis yn olynol i’r nifer isaf ers mis Ionawr 2021. Rydym wedi gweld gostyngiad o 27% o’r uchafbwynt ym mis Awst 2022. Fel y sefyllfa gydag achosion sy’n aros yn hir am driniaeth, mae 9 o bob 10 o’r achosion sy’n aros dros 52 wythnos yn achosion mewn dim ond saith maes arbenigedd.

“Rydym yn arbennig o falch o weld gwelliant ym mis Ionawr o ran faint o amser mae’n ei gymryd i gael mynediad at ofal mewn argyfwng, ond mae’r sefyllfa’n anwadal o hyd, yn enwedig yn sgil gweithredu diwydiannol parhaus a risgiau eraill yn y system.

“Yn ffodus, bu lefelau is o alw ar wasanaethau ambiwlans ym mis Ionawr. Ynghyd â chamau pwrpasol a gymerwyd i gynyddu capasiti gan gynnwys darparu bron i 600 o welyau cymunedol, gwnaeth hyn arwain at welliant mewn amseroedd ymateb ar gyfer galwadau Coch ac Oren. Yn ogystal, bu gwelliant mewn perfformiad o ran y targedau amseroedd aros pedair awr a deuddeg awr mewn adrannau achosion brys. Gwnaeth yr amser cyfartalog a dreulir mewn adrannau achosion brys ostwng i ddwy awr tri deg pum munud, y gorau ers mis Ebrill 2021.

“Er bod perfformiad gofal mewn argyfwng wedi gwella dros y mis diwethaf, nid yw ar y lefel y byddem yn ei disgwyl ac rydym yn dal i weld llawer gormod o bobl yn wynebu oedi ar draws y system. Rydym yn parhau i ysgogi gwelliannau i’r system, gan gynnwys estyn gwasanaethau gofal argyfwng yr un diwrnod i fod ar agor saith diwrnod yr wythnos, gwella'r ffordd y mae cleifion 999 yn cael eu rheoli dros y ffôn, a gweithredu canllawiau gweithredol i gefnogi’r llif drwy ysbytai.”

Nodiadau i olygyddion

Notes

* The number of patient pathways is not the same as the number of individual patients, because some people have multiple open pathways. More information is available in the Welsh Government’s chief statistician’s blog.

+ Does not include maternity or mental health services.

New management information suggests that in December 2022, when there were about 735,000 open patient pathways, there were about 577,400 individual patients on treatment waiting lists in Wales. This was the third consecutive monthly fall, a decrease of over 8,500 patients from November

Waiting lists statistics are not directly comparable across the four nations of the UK. We have published a Chief Statistician’s blog discussing this here.