English icon English

Ymateb Llywodraeth Cymru i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru

Welsh Government response to latest NHS Wales performance data

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru sydd wedi’u cyhoeddi heddiw (21 Hydref).

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r data diweddaraf yn dangos bod y pwysau ar ein system iechyd a gofal yn parhau i dyfu. Ond mae ein staff iechyd a gofal cymdeithasol gweithgar yn dal i ddarparu gofal o ansawdd uchel pan fydd ar bobl ei angen.

"Heddiw, mae'r Gweinidog wedi cyhoeddi Cynllun y Gaeaf sy'n nodi sut y byddwn yn sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau ac yn lleihau'r effaith ar ofal wedi’i gynllunio. I gefnogi hyn, mae arian ychwanegol ar gael i wasanaethau cymdeithasol i helpu rhyddhau gwelyau mewn ysbytai.

"Mae'n galonogol gweld bod perfformiad yn erbyn y targed o 62 o ddiwrnodau ar gyfer gwasanaethau canser wedi gwella. Ond mae COVID gyda ni o hyd ac, yn sgil y cyfyngiadau a’r mesurau sydd ar waith i gadw ein lleoliadau iechyd yn ddiogel, mae’r capasiti ar gyfer gofal wedi'i gynllunio yn dal i fod cryn dipyn yn llai.

"Rydym yn cydnabod bod angen trawsnewid gwasanaethau er mwyn ymateb i faterion tymor hwy a dros y misoedd diwethaf rydym wedi buddsoddi £248m arall i helpu i fynd i'r afael â rhestrau aros sydd wedi cronni.

"Gyda’r byrddau iechyd, rydym hefyd wedi datblygu ffyrdd newydd o weithio ar gyfer darparu gofal mewn argyfwng gyda chymorth £25m o gyllid ychwanegol bob blwyddyn.

"Gall pawb helpu ein Gwasanaeth Iechyd y gaeaf hwn drwy gael pigiad rhag y ffliw a phigiad COVID. Gall pawb hefyd ystyried opsiynau fel fferyllfeydd a'r gwasanaeth 111 ar-lein i gael gofal iechyd pan nad yw'n achos brys."

Nodiadau i olygyddion

The latest data can be found here

https://gov.wales/statistics-and-research