English icon English

Ymateb Llywodraeth Cymru i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru

Welsh Government response to latest NHS Wales performance data

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru o dan bwysau aruthrol o hyd. Mae data gweithredol yn awgrymu ein bod ni wedi profi’r diwrnod prysuraf ar gofnod ar gyfer GIG Cymru ym mis Rhagfyr. Mae ystadegau swyddogol yn dangos bod bron i 400,000 o ymgyngoriadau+ wedi’u cynnal mewn ysbytai yn unig ym mis Tachwedd a bod dros 111,000 o lwybrau cleifion wedi cael eu cau, sy’n gynnydd o 4.7% o’i gymharu â’r mis blaenorol ac yn ôl ar yr un lefelau a welwyd cyn y pandemig.

“Ym mis Tachwedd hefyd, gwelsom yr ail gwymp yn olynol yn nifer y llwybrau cleifion* sy'n aros i ddechrau triniaeth, ar ôl cyfnod o gynnydd cyson ers mis Ebrill 2020.

“Mae cynnydd yn dal i gael ei wneud o safbwynt yr achosion sy’n aros hiraf ac mae nifer yr achosion sy’n aros dwy flynedd am driniaeth wedi gostwng am yr wythfed mis yn olynol – gostyngiad o 30% ers i nifer yr achosion fod yn ei anterth ym mis Mawrth. Gwnaeth cyfran y llwybrau sy'n aros llai na 26 wythnos gynyddu'r mis hwn, a gwelsom ostyngiad yn y nifer sy’n aros mwy na 36 wythnos.

“Dechreuodd mwy o bobl ar eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ar gyfer canser a gwellodd y perfformiad yn erbyn y targed 62 ym mis Tachwedd o'i gymharu â'r mis blaenorol. Wrth inni barhau i roi blaenoriaeth i’r achosion mwyaf brys, ym mis Tachwedd, cafodd y nifer mwyaf ar gofnod o bobl wybod nad oes ganddyn nhw ganser – cynnydd o 33.4% o'i gymharu â mis Ebrill 2022.

“Profwyd gostyngiad o 10.3% – gostyngiad am y trydydd mis yn olynol – yn nifer y llwybrau sy'n aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf.

“Roedd Rhagfyr yn fis eithriadol, ac roedd galw mawr ar y gwasanaeth ambiwlans ac adrannau damweiniau ac achosion brys o hyd. Cafodd y nifer mwyaf erioed o alwadau coch/lle roedd bywyd yn y fantol eu gwneud y mis hwn. Er bod cyfran y galwadau coch a gafodd ymateb o fewn 8 munud yr isaf ar gofnod, ym mis Rhagfyr, cafodd y nifer mwyaf erioed o alwadau coch ymateb brys o fewn 8 munud. O heddiw ymlaen, bydd 75 o glinigwyr ambiwlans ychwanegol ar waith i gefnogi ymateb amserol gan y gwasanaeth ambiwlans.

“Roedd 2,847 o ymweliadau dyddiol ar gyfartaledd ag adrannau damweiniau ac achosion brys ac unedau mân anafiadau. Cafodd nifer yr ymweliadau hyn effaith ar berfformiad yn erbyn y targedau pedair awr a deuddeg awr.

“Er bod pwysau a galw mawr yn cael eu profi ar draws y system gyfan, a hynny wedi arwain at rai cleifion yn gorfod aros yn hirach nag y byddem yn ei obeithio, cafodd dros 6000 (14.9%) o alwadau am ambiwlans eu rheoli'n ddiogel drwy asesiadau ffôn o bell. O ganlyniad, roedd pobl yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn y gymuned gydag adnoddau ambiwlans yn cael eu rhyddhau i ymateb i alwadau eraill.

“Yn ogystal â hynny, cafodd dros 138,000 o alwadau eu gwneud i wasanaeth llinell gymorth 111, y nifer mwyaf ar gofnod a chynnydd o 157% o'i gymharu â phan roedd y nifer hwn yn ei anterth ddiwethaf, ym mis Gorffennaf 2022. Roedd hefyd bron i 503,000 o ymweliadau â gwefan GIG 111 Cymru, ac roedd y rhain yn cynnwys dros 27,300 o ymholiadau wedi’u cwblhau gan y gwiriwr symptomau.

“Er ein bod ni’n cydnabod nad yw gofal brys yn perfformio ar y lefel y byddem yn ei disgwyl, rydym yn ysgogi gwelliannau i'r system. Mae’r gwelliannau hynny yn cynnwys ymestyn oriau agor gwasanaethau gofal brys yr un diwrnod i saith diwrnod yr wythnos, gwella'r ffordd y mae cleifion 999 yn cael eu rheoli dros y ffôn, a recriwtio rhagor o staff. Heb yr holl ymdrechion hyn, byddai mwy o bwysau eto ar y system hyd yn oed."

Nodiadau i olygyddion

Nodiadau

* Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai unigolion nifer o lwybrau sydd ar agor ar yr un pryd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y blog sydd wedi’i gyhoeddi gan Brif Ystadegydd Llywodraeth Cymru.

+ Nid yw'r ffigur hwn yn cynnwys gwasanaethau mamolaeth nac iechyd meddwl.

Mae gwybodaeth reoli newydd yn awgrymu, ym mis Tachwedd 2022, pan roedd tua 748,000 o lwybrau cleifion ar agor, fod tua 586,000 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru. Hwn oedd yr ail gwymp misol yn olynol, gostyngiad o bron i 3,100 o gleifion ers mis Hydref.

Nid oes modd cymharu ystadegau rhestrau aros yn uniongyrchol ar draws pedair gwlad y DU. Rydym wedi cyhoeddi blog y Prif Ystadegydd sy’n trafod hyn yma.