English icon English

Ymateb Llywodraeth Cymru i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru – Gorffennaf ac Awst 2023

Welsh Government response to latest NHS Wales performance data – July and August 2023

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i ddata perfformiad diweddaraf y GIG a gyhoeddwyd Heddiw (21 Medi).

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Mae ein staff gweithgar yn y NHS yn parhau i weithredu ymhlith lefelau uchel o alw. Mae o leiaf 2m o gysylltiadau'n cael eu gwneud â'r NHS bob mis, mewn gwlad gyda phoblogaeth o 3.1m - gan gynnwys 500,000 o ymgynghoriadau. Ar ben hyn cofnodwyd 399,000 o drawiadau ar wefan NHS Cymru 111 a gwnaed 71,000 o alwadau i wasanaeth ffôn 111.

"Mae'n galonogol gweld bod yr arhosiadau'n parhau i ostwng, a'u bod nhw bellach yn 60% yn is na'r brig. Mae'r mwyafrif o lwybrau (59.7%) yn aros llai na 26 wythnos, ac mae'r canolrif yn dal i fod tua 19 wythnos.

"Mae nifer y bobl sy'n aros fwy nag wyth wythnos am wasanaethau diagnostig hefyd wedi gostwng.

"Siom yw gweld bod rhestrau aros cyffredinol wedi mynd yn ôl i'w lefelau uchaf a hynny oherwydd nifer y bobl sy'n ymuno â'r rhestrau aros. Ond dros y 12 mis diwethaf maen nhw wedi cynyddu 1.9% yn unig yng Nghymru o'i gymharu â 10.7% yn Lloegr. Mae'r byrddau iechyd yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â'r arosiadau hiraf ac mae'r achosion mwyaf brys bob amser yn cael eu gweld gyntaf.

"Mae'r galw am wasanaethau gofal brys yn dal yn uchel, ac mae'r perfformiad yn sefydlog ac yn well yn gyffredinol na'r un cyfnod yn 2022. Yr amser ymateb ar gyfartaledd ar gyfer yr alwad ambiwlans fwyaf brys (coch) oedd saith munud a 57 eiliad, sydd o dan y targed o wyth munud ond mae hyn yn is na'r ganran a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Arhosodd bron 70% o gleifion am lai na 4 awr i gael eu gweld mewn Adrannau Argyfwng. Rydym ni a phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio'n galed i dargedu gwelliannau, yn enwedig o ran llif cleifion, cyn cyfnod y gaeaf.

"Mae triniaeth am ganser wedi cynyddu yn erbyn y targed o 62 diwrnod ond mae Llywodraeth Cymru yn derbyn bod mwy i'w wneud yn y maes hwn er i 14,074 gael eu hysbysu mewn un mis nad oes canser arnynt.

"Er gwaethaf y pwysau ar gyllidebau, mae'r Gweinidog Iechyd yn disgwyl i fyrddau iechyd gyflawni'r targedau newydd ar gyfer lleihau'r arosiadau hiraf a byddwn yn parhau i'w cefnogi i gyflawni hynny."