English icon English

Ymateb Llywodraeth Cymru i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru – Mai a Mehefin 2023

Welsh Government response to latest NHS Wales performance data – May and June 2023

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r data Perfformiad NHS diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw (20 Gorffennaf).

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Mae GIG Cymru yn parhau i weld lefelau uchel iawn o alw, ond mae gwelliant pellach wedi bod o ran perfformiad gofal brys ac amseroedd ymateb ambiwlansiau. Yn ogystal, bu gostyngiad eto yn yr arosiadau hiraf am driniaeth.

"Ym mis Mehefin gwelwyd y perfformiad gorau mewn 16 mis o ran galwadau ambiwlans coch, er bod cyfran y galwadau lle mae bywyd yn y fantol yn dal i fod yn uchel iawn. Fe wnaeth cyfran y galwadau coch a gafodd ymateb brys o fewn wyth munud gynyddu i 54.6 y cant.

"Ym mis Mehefin hefyd cofnodwyd y perfformiad pedair awr gorau ar gyfer cyfleusterau gofal brys ers mwy na dwy flynedd.

"Roedd hyn er gwaetha’r ffaith fod nifer y bobl a fynychodd y cyfleusterau hynny fis Mehefin ar ei uchaf erioed, sef 3,278 bob dydd ar gyfartaledd.

"Gwelwyd gwelliant hefyd yn y perfformiad yn erbyn y targed 12 awr. Ar gyfartaledd, yr amser a dreuliwyd mewn adrannau brys fis diwethaf oedd 2 awr a 37 munud, ac erbyn hyn mae’r lefelau wedi mynd yn ôl yn fras i’r hyn oeddent cyn y pandemig.

"Mae’n galonogol hefyd gweld gwelliant pellach ym mherfformiad trosglwyddo cleifion ambiwlans a gostyngiad mewn arosiadau hir i dderbyn cleifion o adrannau brys.

"Ym mis Mehefin hefyd cafwyd mwy na 354,000 o drawiadau ar wefan GIG 111 Cymru a chynhaliwyd mwy na 9,600 o wiriadau symptomau.

"Er ei bod yn siom bod y niferoedd cyffredinol ar y rhestr aros wedi cynyddu ym mis Mai, gostyngodd nifer yr arosiadau dwy flynedd am y pedwerydd mis ar ddeg yn olynol a gostyngodd yr amser aros cyfartalog am driniaeth hefyd i 19.1 wythnos. Roedd hyn er gwaethaf yr ŵyl banc ychwanegol a’r gweithredu diwydiannol.

"Dechreuodd mwy o bobl ar eu triniaeth ganser ddiffiniol gyntaf ym mis Mai na'r mis blaenorol, a gwelwyd cynnydd hefyd yn nifer y llwybrau a gafodd eu cau ar ôl i’r cleifion gael gwybod nad oedd canser arnynt.

"Mae ein staff ymroddedig yn parhau i weithio’n galed i ddarparu gofal o ansawdd uchel bob dydd, gyda mwy na 390,000 o ymgyngoriadau mewn gofal eilaidd yn unig ym mis Mai, heb gynnwys cysylltiadau â meddygon teulu na diagnosteg.

"Mae'r Gweinidog wedi gosod targedau newydd i'r byrddau iechyd i fynd i'r afael â'r arosiadau hiraf a byddwn yn parhau i'w cefnogi i wella perfformiad."