English icon English

Ymateb Llywodraeth Cymru i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru: Medi a Hydref 2023

Welsh Government response to latest NHS Wales performance data: September and October 2023

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i ddata perfformiad diweddaraf y GIG a gyhoeddwyd heddiw (Tachwedd 23ain).

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Mae’r pwysau ar wasanaethau'r GIG wedi parhau i dyfu wrth i ni gyrraedd amser anoddaf y flwyddyn. Er gwaethaf y ffaith bod rhestrau aros wedi tyfu yn gyffredinol, mae'n galonogol gweld bod yr arosiadau hiraf yn parhau i ostwng. Mae mwyafrif y bobl sy'n aros ar restr aros unigol (llwybr claf) yn aros llai na 26 wythnos.

“Rydym yn falch o weld bod nifer y cleifion sy’n aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf hefyd wedi gostwng. Roedd hyn er gwaethaf y ffaith bod mwy na 4,000 o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol cyntaf wedi'u gwneud bob dydd ym mis Medi ar gyfartaledd.

“Cynyddodd nifer y bobl a gafodd wybod nad oedd canser arnynt hefyd, ond mae'n destun pryder bod cynifer yn methu'r dyddiad targed ar gyfer triniaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwysau sylweddol ar fyrddau iechyd i wella perfformiad.

"Mae hefyd yn gadarnhaol bod nifer y bobl sy'n ffonio gwasanaeth GIG 111 Cymru yn parhau i gynyddu. Ym mis Hydref, gwelwyd y nifer uchaf erioed o alwadau yn cael eu hateb o fewn 60 eiliad. Mae hyn yn helpu profiad cleifion yn ogystal â chynorthwyo pobl i gael gafael ar y driniaeth iawn, ar yr adeg iawn, yn y lle iawn.

"Er bod y cynnydd yng nghyfanswm y rhestrau aros y mis hwn yn fach iawn, mae'n siomedig eu gweld ar eu lefelau uchaf erioed. Mae hynny oherwydd y nifer parhaus o bobl sy'n cael eu rhoi ar y rhestrau aros, gyda'r nifer blynyddol uchaf erioed o atgyfeiriadau newydd yn ystod y 12 mis diweddaraf.

"Mae byrddau iechyd yn ymdrechu'n galed i fynd i'r afael â'r arosiadau hiraf ond mae’n rhaid gweld yr achosion mwyaf brys bob amser yn gyntaf.

"Heddiw, rydyn ni wedi cyhoeddi cyllid gwerth hyd at £29.4 miliwn ar gyfer canolfan Orthopedig newydd yn Ysbyty Llandudno er mwyn helpu i leihau amseroedd aros ym maes orthopedig. Triniaethau orthopedig yw lle mae'r rhestrau hiraf yn y GIG.  

"Bydd y ganolfan newydd yn trawsnewid gwasanaethau orthopedig a gynlluniwyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac yn sicrhau budd i gleifion, staff a chymuned ehangach Gogledd Cymru, gan fwriadu cyflawni 1,900 o driniaethau y flwyddyn.

"Mae ein staff gweithgar iawn yn y GIG yn parhau i weithio mewn amgylchedd o alw uchel a chynyddol. Ym mis Hydref, gwelwyd y nifer uchaf erioed o bobl yn mynd i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ar gyfer unrhyw fis Hydref ar gofnod.

"Hefyd, ym mis Hydref, gwelwyd yr ail gyfran uchaf erioed o alwadau lle mae bywyd yn y fantol (galwadau ambiwlans coch) yn cael eu cofnodi, a'r nifer ail uchaf o alwadau coch dyddiol ar gyfartaledd.

“Eleni mae 119 yn rhagor o staff ambiwlans yn gweithio i leddfu’r pwysau o gymharu â’r llynedd. 

"Rydyn ni'n disgwyl i fyrddau iechyd flaenoriaethu gwella perfformiad o ran trosglwyddo cleifion ambiwlansys er mwyn rhyddhau capasiti ambiwlansys, ond yn aml mae oedi'n digwydd yng nghefn yr ysbyty gyda phobl sydd eisoes wedi cael eu trin yn methu â gadael oherwydd bod y gwasanaethau gofal cymunedol dan gymaint o bwysau. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio law yn llaw â chynghorau lleol i geisio datrys y broblem hon.

"Rydyn ni'n parhau i gynorthwyo byrddau iechyd i gyflawni'r targedau newydd ar gyfer lleihau'r arosiadau hiraf a osodwyd gan y Gweinidog Iechyd, a hynny yng nghyd-destun pwysau cyllidebol eithafol."