English icon English

Ymateb Llywodraeth Cymru i gyhoeddi data perfformiad diweddaraf GIG Cymru

Welsh Government response to publication of latest NHS Wales performance data

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad ar ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau 23 Mehefin).

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Mae ein gwasanaethau iechyd yn dal i adfer o effeithiau'r pandemig. Rydyn ni wedi gweld mwy o bobl yn ymweld â’n gwasanaethau gyda phryderon iechyd ond bydd y lleihad yn nifer y diwrnodau gwaith oherwydd gwyliau'r Pasg wedi effeithio ar gapasiti gofal wedi'i drefnu. Ym mis Ebrill, cafwyd llai o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol cyntaf o'i gymharu â'r mis blaenorol.

"Ym mis Ebrill, gwelwyd cynnydd bach o’i gymharu â’r mis blaenorol – cynnydd o 0.8% (707,099) – yn nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am driniaeth. Ond, o’i gymharu â mis Mawrth 2022, gwelwyd gostyngiad o 3.4% yn nifer y llwybrau cleifion sy’n aros dros ddwy flynedd. Dyma'r gostyngiad cyntaf ers dechrau'r pandemig.

"Ym mis Ebrill, roedd gostyngiad o 10.5% o’i gymharu â mis Mawrth 2022 yn nifer y llwybrau cleifion sy'n aros yn hirach na'r amser targed o 14 o wythnosau ar gyfer therapïau. Dyma’r gostyngiad misol cyntaf ers mis Mai 2021.

"Gwelwyd cynnydd o 0.3% yn nifer y llwybrau cleifion sy'n aros am brofion diagnostig o’i gymharu â'r mis blaenorol ac roedd cynnydd o 8% hefyd yn nifer y llwybrau sy'n aros wyth wythnos am brofion diagnostig. Er hynny, o'i gymharu â'r lefel uchaf ym mis Mai 2020, mae hyn yn ostyngiad o 28%.

"Ym mis Ebrill, o’i gymharu â mis Mawrth, dechreuodd llai o bobl ar eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ar gyfer canser o fewn 62 o ddiwrnodau i’r dyddiad yr amheuwyd gyntaf fod ganddynt ganser. Cafodd 10,539 o lwybrau cleifion yr oedd amheuaeth bod ganddynt ganser wybod nad oedd ganddynt ganser – mae hyn hefyd yn ostyngiad o'i gymharu â'r mis blaenorol.

"Mae staff adrannau damweiniau ac achosion brys a gwasanaethau ambiwlans 999 yn parhau i fod o dan gryn bwysau oherwydd heriau o ran capasiti ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn wedi'i ddwysáu'n ddiweddar gan lefelau uwch na'r disgwyl o absenoldebau salwch

Diolch i waith caled ac ymrwymiad y staff, cafwyd gwelliannau bach ar draws gofal brys a gofal mewn argyfwng. Ym mis Mai, o'i gymharu â mis Ebrill, roedd gwelliannau o ran ymatebolrwydd ambiwlansys a pherfformiad adrannau damweiniau ac achosion brys ac mae mwyafrif y cleifion yn parhau i gael gofal diogel ac amserol. Er hynny, mae lefel yr oedi y mae cleifion yn ei phrofi ar adegau yn dal i beri pryder inni ac rydyn ni’n gweithio gyda'r holl randdeiliaid drwy raglenni cenedlaethol i gefnogi gwelliannau.

"Mae'n bwysig nodi bod dros 300,000 o ymgyngoriadau cleifion wedi'u cynnal gan y GIG yng Nghymru yn ystod mis Ebrill 2022."

Nodiadau i olygyddion

Notes to editors

The latest data can be found here:

https://gov.wales/statistics-and-research

Definition of Patient pathways and why the term is used can be found here: Chief statistician’s update: explaining NHS activity and performance statistics | Digital and Data Blog (gov.wales)