Ymateb y Gweinidog Iechyd i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru – Awst a Medi 2023
Health Minister response to latest NHS Wales performance data – August and September 2023
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:
Yr wythnos hon bu ymgais i danseilio hygrededd ystadegau swyddogol y GIG yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn glir bod y wybodaeth a gynhyrchir yn gwbl ddibynadwy ac wedi'i chynhyrchu'n annibynnol o ddylanwad gwleidyddol. Cadarnhawyd hyn gan y Prif Ystadegydd yn ei datganiad heddiw.
Bu gwelliant ym mherfformiad amseroedd aros 4 a 12-awr mewn adrannau brys, ac mae'r byrddau iechyd unwaith eto wedi rhoi sicrwydd bod y niferoedd hyn yn cynnwys eithriadau clinigol.
Unwaith eto rydym wedi perfformio'n well na Lloegr yn ein hadrannau brys, drwy gyflwyno ffyrdd newydd i bobl gael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, i ffwrdd o'r adrannau brys, gan gynnwys y gwasanaeth 111 a dderbyniodd dros 71,000 o alwadau ym mis Medi.
Mae'r galw ar y GIG yn ddi-ildio hyd yn oed cyn i ni fynd i'r gaeaf.
Er gwaethaf hyn, mae'r aros ar gyfartaledd am driniaeth yn dilyn atgyfeiriad o ofal sylfaenol (ee meddyg teulu neu optometrydd) o dan 20 wythnos, a 2.5 wythnos yn fyrrach nag yr oedd yr un adeg y llynedd.
Rwy'n falch o weld bod y perfformiad yn erbyn y targed o 62 diwrnod ar gyfer canser wedi gwella, ac mae nifer y bobl sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth wedi gostwng am yr 16eg mis yn olynol.
Gwelodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru gynnydd nodedig o 17% mewn galwadau dyddiol 'lle mae bywyd yn y fantol' o'i gymharu â mis Awst, a'r trydydd uchaf erioed.
Er hynny cafodd dros 20% yn fwy o’r galwadau hynny ymateb o fewn 8 munud o'i gymharu â'r un mis y llynedd.
Parhaodd arosiadau dwy flynedd am driniaeth i ostwng, gostyngodd nifer y bobl sy'n aros am therapïau a chafwyd gwelliant mewn perfformiad yn erbyn y targed 62 diwrnod ar gyfer canser.
Er hynny, mae'n siomedig gweld bod rhestrau aros cyffredinol yn codi eto. Rwyf wedi bod yn glir gyda'r byrddau iechyd fy mod yn disgwyl gweld gwelliant yn y maes hwn, a byddwn yn parhau i'w cefnogi i gyflawni hynny.
Felly, mae'n hanfodol inni ddatblygu atebion a fydd yn creu GIG sy'n addas ar gyfer y dyfodol, er gwaethaf yr heriau ariannol yr ydym yn eu hwynebu a'r dewisiadau anodd y bydd yn rhaid eu gwneud yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.
Heddiw yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, gwelais sut y mae cynnydd ym maes arloesi digidol yn helpu i leihau amseroedd aros ac arbed arian i GIG Cymru.
Mae dwy system ddigidol newydd yn cael eu cyflwyno ledled Cymru, sef Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) a Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig (EPMA).
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe hefyd wedi datblygu technoleg i helpu i wella llif cleifion drwy ysbytai, sy'n hanfodol bwysig i helpu i leihau amseroedd aros.
Mae hyn i gyd yn symleiddio prosesau gweinyddol i staff gofal iechyd ac yn caniatáu mwy o amser iddynt ganolbwyntio ar ofal cleifion.