English icon English

Ymateb y Gweinidog Iechyd i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru – Mehefin a Gorffennaf 2023

Health Minister response to latest NHS Wales performance data – June and July 2023

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Mae'n galonogol gweld cynnydd o ran lleihau rhai o'r arosiadau hwyaf, a'r amser aros cyfartalog am driniaeth yng Nghymru yw 19.1 wythnos – sydd 10 wythnos yn llai na brig mis Hydref 2020 a dwy wythnos a hanner yn fyrrach na blwyddyn yn ôl.

Mae hyn er gwaethaf y galw parhaus ar staff y GIG sy'n gweithio'n galed.  Atgyfeiriadau  ar gyfer canser ac arbenigeddau eraill oedd yr uchaf i gael eu cofnodi erioed ym mis Mehefin. Cynyddodd atgyfeiriadau gyfan gwbl gan 20% ers yr un mis y llynedd.

Ym mis Mehefin gwelwyd y gyfran uchaf o bobl sy’n aros llai na 26 wythnos am driniaeth (59.3%), ers tair blynedd, ac mae arosiadau dros flwyddyn am apwyntiad cleifion allanol a dwy flynedd am driniaeth yn parhau i ostwng.

Mae arosiadau dros ddwy flynedd bellach wedi gostwng 60% ers i’n rhaglen adfer ar ôl Covid gael ei lansio.

Er nad yw'r galw am wasanaethau yn arafu ac er bod y rhestr aros gyffredinol wedi codi eto, mae angen inni sicrhau ein bod yn rheoli ein hadnoddau yn effeithiol. Y llynedd cafodd dros 6,000 o driniaethau eu canslo ar y funud olaf.

Mae canslo apwyntiadau ar y funud olaf yn golygu gwastraffu adnoddau – mae'n golled o ran amser ymgynghorwyr a llawfeddygon pan allai'r gofod hwnnw fod wedi cael ei gynnig i rywun arall.

Dyna pam rwyf wedi lansio ein polisi aros yn rhagweithiol, sef y polisi 3A i gefnogi pobl sy'n aros am driniaeth i atal rhai o'r apwyntiadau hynny rhag cael eu canslo a sicrhau bod pobl yn cael y canlyniadau gorau.

Mae adrannau brys ac ambiwlansys yn parhau i weld lefelau parhaus o alw uchel. Er hynny, mae perfformiad yn erbyn targed pedair awr yr adran argyfwng ac amseroedd ymateb galwadau coch ambiwlansys yn dal eu tir yn dda, yn unol â gwelliannau a welwyd yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf. Ym mis Gorffennaf ymatebodd y gwasanaeth ambiwlans i fwy o ddigwyddiadau o fewn 10 munud o'i gymharu â'r un mis y llynedd.

Ym mis Gorffennaf cafodd yr ail gyfran uchaf o alwadau eu hateb gan llinell gymorth 111 am dros flwyddyn. Mae'n galonogol bod fwy o bobl yn defnyddio'r llinell gymorth hon i sicrhau'r gwasanaeth mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion a lleihau'r pwysau ar y system ehangach.

Ar gyfer gwasanaethau canser, dechreuodd 132 yn fwy o bobl eu triniaeth ddiffiniol gyntaf, gyda 23 yn fwy o fewn y targed, i gymharu â'r un amser blwyddyn ddiwethaf. Hefyd gwelwyd cynnydd o 14% yn y nifer a gafodd wybod nad oes ganddynt ganser (14,575) o'i gymharu â Mehefin 2022.

Nodiadau i olygyddion

The latest data can be found here: NHS activity and performance summary: June and July 2023 | GOV.WALES

 

Waiting lists statistics are not directly comparable across the four nations of the UK. We have published a Chief Statistician’s blog discussing this here.