English icon English

Ymateb y Gweinidog Iechyd i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru – Tachwedd a Rhagfyr 2023

Health Minister response to latest NHS Wales performance data – November and December 2023

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

Diolch i waith caled ein staff ymroddedig, mae'r GIG yng Nghymru wedi ymdopi'n gymharol dda hyd yma y gaeaf hwn a hynny o dan amgylchiadau anodd. Rwyf hefyd yn falch o weld bod y camau rydym wedi'u cymryd y gaeaf hwn, a dros y flwyddyn ddiwethaf, yn helpu i sefydlogi neu wella perfformiad.

Rwyf wrth fy modd bod nifer y bobl ar restrau aros wedi gostwng am y tro cyntaf ers nifer o fisoedd, ond mae'r gaeaf heriol rydym wedi bod drwyddo yn golygu y gallai hyn fod yn anodd ei gynnal dros y misoedd nesaf.

O gymharu â'r un adeg y llynedd, rydym wedi gweld gwelliannau ym mherfformiad amser ymateb ambiwlansys a llai o oedi cyn trosglwyddo cleifion ambiwlansys i ysbytai. Rydym hefyd wedi gweld gostyngiad o 20% yn nifer y cleifion sy'n treulio dros 12 awr mewn adrannau achosion brys cyn cael eu derbyn i'r ysbyty neu eu rhyddhau.

Mae hyn er gwaethaf pwysau aruthrol. Er enghraifft, atebodd gwasanaeth GIG 111 Cymru fwy o alwadau ffôn nag erioed, a'r nifer cyfartalog o alwadau coch y dydd a wnaed ym mis Rhagfyr oedd yr ail uchaf erioed.

Er hyn, ym mis Rhagfyr, cafodd 80% o alwadau coch ymateb o fewn pymtheg munud ac roedd yr amser ymateb cyfartalog i alwadau categori 'oren' awr a 45 munud yn gynt nag ym mis Rhagfyr 2022. Hefyd, roedd yr oriau a gollwyd oherwydd oedi cyn trosglwyddo cleifion i ysbytai i lawr 29% o gymharu â'r llynedd.

Mae cynnydd hefyd yn cael ei wneud o ran oedi wrth drosglwyddo gofal. Gostyngodd nifer yr achosion o 1,567 ym mis Tachwedd i 1,361 ym mis Rhagfyr - ac i lawr o 1,750 ym mis Ebrill.

Mae ein darpariaeth o ddata manwl newydd yn helpu byrddau iechyd i nodi'r meysydd lle y mae angen iddynt dargedu adnoddau er mwyn helpu mwy o bobl i adael yr ysbyty pan fyddant yn barod i wneud hynny.

Hoffwn ddiolch hefyd i'r cyhoedd am ddefnyddio'r gwasanaethau newydd rydym wedi'u hariannu i leihau'r pwysau ar ymarferwyr cyffredinol ac adrannau achosion brys.

Mae'n wych gweld bod y gwasanaeth cenedlaethol, GIG 111 Cymru, y canolfannau gofal sylfaenol brys a'r canolfannau gofal argyfwng yr un diwrnod yn darparu gofal a chymorth yn llwyddiannus ac yn ddiogel i ddegau o filoedd o bobl bob mis.

Ym mis Rhagfyr, cafodd dros 95,000 o alwadau eu gwneud i'r llinell gymorth 111, cynnydd o tua 24,500 o alwadau o gymharu â mis Tachwedd. O'r rhain, cafodd dros 78,000 o alwadau eu hateb - y ffigur uchaf erioed.

Mae byrddau iechyd wedi parhau i wneud cynnydd o ran darparu gwasanaethau gofal a gynlluniwyd yn ystod mis Tachwedd.

Mae nifer y cleifion sy'n aros dros ddwy flynedd yn parhau i ostwng, ac ym mis Tachwedd, gwelwyd hefyd ostyngiad yn nifer cyffredinol y llwybrau ar y rhestrau aros; mae hyn yn newid o'r cynnydd misol diweddar.

Mae'r niferoedd sy'n aros am driniaethau diagnostig hefyd wedi gostwng ym mis Tachwedd. 

Y nifer y bobl a gafodd wybod nad oedd canser arnynt oedd yr ail ffigur uchaf erioed.

Ond mae llawer mwy i'w wneud, a byddwn yn parhau i weithio gyda'r byrddau iechyd i fynd i'r afael â'r amseroedd aros hiraf.