English icon English
WG positive 40mm-2 cropped

Ymateb yr Ysgrifennydd Iechyd i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru: Hydref a Thachwedd 2024

Health Secretary response to latest NHS Wales performance data: October and November 2024

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:

"Rydym yn cydnabod effaith amseroedd aros hir ar fywydau pobl, yn feddyliol ac yn gorfforol, ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siŵr eu bod yn lleihau cyn gynted â phosib’.

“Rydym yn gwybod bod y galw am ofal iechyd yng Nghymru yn cynyddu’n barhaus a bod y sector o dan bwysau mawr, ond mae gweithlu arbennig ein Gwasanaeth Iechyd yn dal i roi gofal o ansawdd uchel bob dydd.

“Mae lleihau’r amseroedd aros hiraf yn flaenoriaeth i mi ac rydym wedi buddsoddi £50m yn ychwanegol i gefnogi byrddau iechyd.

“Yn ogystal, roedd y Gyllideb Ddrafft wythnos diwetha’n cynnwys mwy na £600m o gyllid refeniw a chyfalaf ychwanegol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hyn hefyd yn cefnogi’r Gwasanaeth Iechyd i gynnal yr ymdrech i leihau amseroedd aros hir.

“Ar y cyfan, mae arosiadau dwy flynedd am driniaeth nawr bron i ddau draean yn is na’r lefel uchaf yn ystod y pandemig. Rydym yn disgwyl i’r rhain leihau’n sylweddol yn y misoedd nesaf wrth inni ddechrau gweld effaith y £50m ychwanegol i leihau amseroedd aros hir.

“Cynyddodd nifer y llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn ar gyfer apwyntiad claf allanol cyntaf ym mis Hydref i ychydig dros 81,000, ond mae hyn yn dal i fod un rhan o bump yn is na’r lefel uchaf ym mis Awst 2022.

“Mae gwasanaethau gofal argyfwng yn hynod o brysur o hyd. Bu bron i 6,000 o alwadau ‘coch’, lle’r oedd bywyd yn y fantol, i’r gwasanaeth ambiwlans ym mis Tachwedd – y cyfartaledd dyddiol uchaf (198) ar gofnod. Ond ymatebodd y gwasanaeth ambiwlans i’r nifer uchaf erioed o’r galwadau hyn o fewn wyth munud.

“Mae gwasanaethau gofal brys ac argyfwng hefyd o dan bwysau sylweddol ond roedd gwelliant yn y perfformiad yn erbyn y targed 12 awr.

“Roedd gwelliant hefyd yn y perfformiad o ran canser ym mis Hydref, wrth i’r gyfran sy’n dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod gynyddu i 58%, o 55% ym mis Medi. Dechreuodd dros 2,000 o bobl driniaeth a chafodd dros 15,500 o bobl y newyddion da nad oedd ganddynt ganser.

“Roedd gostyngiadau yn yr arosiadau hir ar gyfer gwasanaethau diagnosteg a therapïau a gostyngiad pellach yn nifer yr achosion o oedi wrth ryddhau cleifion o’r ysbyty ym mis Tachwedd. Dyma’r trydydd mis yn olynol y mae cyfanswm yr achosion o oedi wedi lleihau a ffigur mis Tachwedd oedd yr isaf yn 2024.

“Rydym yn cyhoeddi data perfformiad byrddau iechyd unigol am yr eildro heddiw.

“Rwy’n falch o weld nad oes gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe unrhyw apwyntiadau cleifion allanol cyntaf sy’n aros mwy na blwyddyn a bod ganddo’r gyfran isaf o lwybrau atgyfeirio at driniaeth sy’n aros mwy na blwyddyn ym mis Hydref.

“Er gwaethaf pwysau sylweddol ar wasanaethau gofal argyfwng, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn parhau i drosglwyddo cleifion o ambiwlansys yn brydlon ac mae gwelliannau hefyd wedi’u dangos yn y rhan fwyaf o’r mesurau perfformiad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

“Mae hyn yn dangos ble gall byrddau iechyd ddysgu oddi wrth ei gilydd i helpu i wella prydlondeb y gofal maen nhw’n ei gynnig.”