English icon English
WG positive 40mm-2 cropped-2

Ymateb yr Ysgrifennydd Iechyd i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru: Mis Rhagfyr 2024 ac Ionawr 2025

Health Secretary response to latest NHS Wales performance data: December and January 2025

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:

“Rwy'n falch o weld cynnydd cadarnhaol o ran lleihau amseroedd aros hir a maint y rhestr aros.

“Mae llawer o waith i'w wneud o hyd a llawer iawn i’w gyflawni. Serch hynny, mae'r set ddata hon yn dangos bod cynlluniau’r GIG i gynyddu capasiti a’r gwaith i leihau’r amseroedd aros hiraf yn dechrau dwyn ffrwyth.

“Ond megis dechrau ydyn ni, fodd bynnag. Rwy'n disgwyl gweld cynnydd pellach dros y misoedd nesaf yn sgil y gweithgarwch ychwanegol a gyllidir gan y £50m a ddarparwyd ym mis Tachwedd.

“Am y tro cyntaf ers bron i flwyddyn, mae nifer y llwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth wedi gostwng i 800,400. Gostyngodd y nifer a oedd yn aros mwy na dwy flynedd 3% ym mis Rhagfyr, a bu gostyngiad hefyd yn nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am apwyntiad claf allanol cyntaf hefyd.

“Heddiw, rydw i'n ymweld ag Ysbyty Castell-nedd Port Talbot i ddysgu sut mae'n gweithio tuag at ddod yn ganolfan ragoriaeth ym maes gofal orthopedig a gofal asgwrn cefn. Mae'r ysbyty wedi gweld gwelliant aruthrol mewn amseroedd aros ar gyfer gofal orthopedig arbenigol.

“Erbyn hyn mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe y nifer isaf o bobl sy'n aros mwy na dwy flynedd am ofal orthopedig yng Nghymru ac mae ar y trywydd iawn i ddileu'r arosiadau hir hyn erbyn diwedd mis Mawrth - mae hyn yn dangos manteision gweithio rhanbarthol.

“Y perfformiad ym maes canser yn erbyn y targed o 62 diwrnod oedd y gorau ers Awst 2021, gan gynyddu i 61.9%, o'i gymharu â 60.2% y mis blaenorol. Cafodd dros 12,300 o bobl y newyddion da nad oedd ganddyn nhw ganser ym mis Rhagfyr.

“Er gwaethaf heriau parhaus y gaeaf, bu gwelliant mewn perfformiad yn erbyn y dangosyddion gofal argyfwng allweddol ym mis Ionawr. Mae hyn yn cynnwys perfformiad yn erbyn y targedau o bedair awr a deuddeg awr mewn adrannau brys, yn ogystal ag amseroedd ymateb i alwadau ‘coch’ lle'r oedd bywyd yn y fantol.

“Mae hyn yn destun clod i staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a staff mewn adrannau brys sy'n gweithio'n ddiflino a hynny o dan bwysau di-ildio yn aml.

“Ond rhaid i'r GIG a'r awdurdodau lleol gydweithio i wella llif cleifion drwy'r system iechyd a gofal ac adeiladu ar y ffocws ar her 50 diwrnod y gaeaf.”