English icon English
Eluned Morgan (P)#6

Ymestyn Bwrsariaeth y GIG yng Nghymru gyda mynediad at y benthyciad cynhaliaeth llawn

NHS Bursary extended in Wales with access to full maintenance loan amid cost of living crisis

Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi cadarnhau y bydd Cymru yn ymestyn cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru i fyfyrwyr gofal iechyd cymwys sy’n astudio ym mlwyddyn academaidd 2024-25. Yn ogystal â hynny, bydd myfyrwyr yn gallu cael mynediad at swm llawn y benthyciad cynhaliaeth.

Er mwyn helpu yng nghanol yr argyfwng costau byw, bydd myfyrwyr Bwrsariaeth y GIG yn cael mynediad at y benthyciad cynhaliaeth llawn sydd ar gael gan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Mae hyn yn cynnwys myfyrwyr Meddygaeth a Deintyddiaeth yn eu blynyddoedd Bwrsariaeth.

Mae myfyrwyr nyrsio, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sy’n ymrwymo i weithio yng Nghymru am hyd at ddwy flynedd ar ôl cymhwyso yn gymwys ar gyfer y fwrsariaeth. Mae’r cynllun yn darparu cymorth nad oes rhaid ei ad-dalu sy’n cwmpasu ffioedd dysgu a chostau byw.

Bydd myfyrwyr Meddygaeth a Deintyddiaeth sydd fel arfer yn byw yng Nghymru yn gallu cael mynediad at swm llawn y benthyciad cynhaliaeth yn eu blynyddoedd Bwrsariaeth, ni waeth ble maent yn astudio yn y DU.

Mae’r cyhoeddiad heddiw yn rhoi sicrwydd ynglŷn â threfniadau’r fwrsariaeth tan 2025 i helpu myfyrwyr a darparwyr cyrsiau i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal ymgynghoriad yn ystod y cyfnod estynedig hwn ar y ffordd orau o barhau i gefnogi pobl sy’n astudio rhaglenni gofal iechyd yng Nghymru i sicrhau bod Cymru yn parhau i ddenu a chadw’r myfyrwyr disgleiriaf a gorau.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:

“Rydyn ni’n benderfynol o sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn gynnig deniadol i fyfyrwyr gofal iechyd talentog.

“Dyna pam rydyn ni’n parhau i fuddsoddi yn hyfforddiant y nyrsys, y bydwragedd a’r gweithwyr proffesiynol ymroddedig hynod fedrus eraill sy’n gweithio yn ein GIG.

“Mae’r fwrsariaeth hon wedi helpu cymaint o bobl i gymhwyso a gweithio yn y GIG, gan gryfhau ein gweithlu.

“Bydd mynediad at swm llawn y benthyciad cynhaliaeth hefyd yn helpu’r rhai sy’n dechrau ar eu teithiau gofal iechyd, meddygol a deintyddol i frwydro yn erbyn caledi ariannol ac iechyd meddwl gwael yng nghanol yr argyfwng costau byw parhaus.”

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles:

"Mae'n bwysig ein bod yn cefnogi myfyrwyr gofal iechyd yn ystod yr argyfwng costau byw hwn, fel y gallwn hyfforddi a chadw gweithlu meddygol medrus yng Nghymru.

“Dyna pam rydym yn darparu cyllid i alluogi myfyrwyr Bwrsariaeth y GIG i gael gafael ar y benthyciad cynhaliaeth lawn, gan sicrhau nad yw caledi ariannol yn ffactor wrth atal myfyrwyr rhag astudio yma."

Ychwanegodd Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Sue Tranka:

“Rwyf wrth fy modd ein bod unwaith eto yn ymestyn bwrsariaeth y GIG ac yn dangos ymrwymiad clir i sicrhau cynaliadwyedd gweithlu’r GIG yn y dyfodol.”