Ymestyn y cynllun taliadau cymorth £500 ar gyfer hunanynysu
£500 self-isolation support payment scheme extended
Mae cynllun Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl ar gyflogau isel drwy roi £500 iddynt os oes rhaid iddynt hunanynysu, wedi cael ei ymestyn hyd at fis Mawrth 2022.
Cafodd y Cynllun Taliadau Cymorth Hunanynysu ei agor ym mis Tachwedd 2020 i helpu pobl i oresgyn rhai o’r rhwystrau ariannol a wynebir gan y rheini y mae gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru yn dweud wrthynt bod yn rhaid hunanynysu gan fod ganddynt symptomau’r coronafeirws neu eu bod wedi dod i gysylltiad â’r haint.
Mae’n helpu i gefnogi pobl na allant weithio gartref, yn ogystal â rhieni a gofalwyr ar incwm isel sydd â phlant sydd yn hunanynysu.
Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans, wedi cymeradwyo £4m ychwanegol ar ben yr £8m sydd eisoes wedi cael ei glustnodi yng Nghronfa Galedi Llywodraeth Leol, ar gyfer ymestyn y cynllun.
Hyd yn hyn, mae dros 13,200 o daliadau cymorth wedi cael eu rhoi i bobl ers mis Tachwedd 2020.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans:
“Mae’r taliadau hyn yn hanfodol i unrhyw un y mae’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu wedi dweud wrthynt bod yn rhaid hunanynysu, ond a allai ddioddef caledi ariannol o ganlyniad i orfod aros gartref a methu gweithio.
“Yr awdurdodau lleol sy’n gweinyddu’r cynllun, sy’n cynnwys elfen yn ôl disgresiwn i allu rhoi cymorth i’r rheini sydd â’r angen mwyaf.”
Yn ogystal â’r taliad cymorth o £500, mae cynlluniau peilot, gan gynnwys canolfannau Cymorth COVID, wedi cael eu sefydlu i gynnig hyd yn oed mwy o gymorth i bobl a fyddai’n ei chael yn anodd iawn hunanynysu. Mae’r cynlluniau hyn wedi cael eu gweithredu yn ardaloedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac maent wedi helpu i ddarparu cymorth ychwanegol i bobl, megis bwyd, eitemau hanfodol, cymorth iechyd meddwl, a chyngor ariannol.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:
“Mae mor bwysig bod pobl yn hunanynysu os ydyn nhw’n cael prawf positif am COVID-19 gan fod hyn yn helpu i atal y feirws rhag lledaenu.
“Mae’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu wedi rhoi cefnogaeth werthfawr i bobl sydd wedi cael prawf positif, a’r bobl sydd wedi dod i gysylltiad â nhw, drwy ddarparu cyngor, arweiniad, a chymorth. Mae’n bwysig parhau i fuddsoddi er mwyn inni allu helpu’r rheini sydd â’r angen mwyaf.
“Rydym wedi llunio canllawiau i sicrhau bod yr awdurdodau lleol yn gallu cael gafael ar gyllid i ddarparu cymorth sydd wedi ei deilwra i fodloni anghenion pobl, gan gynnwys llety amgen dros dro i’r rheini na allan nhw hunanynysu’n ddiogel nac mewn modd effeithiol.”