Y Prif Weinidog yn annog pobl i ddweud eu dweud am Ymchwiliad Covid-19 y DU gyfan
First Minister urges people to have their say on the UK-wide Covid-19 Inquiry
Mae Prif Weinidog Cymru yn annog pobl ym mhob rhan o Gymru i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar gylch gorchwyl yr Ymchwiliad Covid-19 ar gyfer y DU gyfan.
Mae Prif Weinidog y DU wedi cyhoeddi cylch gorchwyl drafft yr ymchwiliad heddiw.
Ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru a’r llywodraethau datganoledig eraill cyn cyhoeddi'r cylch gorchwyl drafft.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno sylwadau cyfunol i Brif Weinidog y DU i sicrhau y bydd profiadau pobl yng Nghymru yn cael eu hadlewyrchu'n briodol ac yn drylwyr yn yr ymchwiliad.
Bydd hyn yn sicrhau bod y penderfyniadau a gafodd eu gwneud gan Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru yn ystod y pandemig yn cael eu harchwilio'n briodol gan dîm yr ymchwiliad.
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei arwain gan gadeirydd yr ymchwiliad, y Farwnes Heather Hallett.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford,
"Mae'r pandemig wedi cyffwrdd â'n bywydau i gyd mewn gwahanol ffyrdd ac rwy’n annog pawb i gymryd rhan yn y broses hon a rhoi eu hadborth.
"Rwyf wedi cwrdd â chynrychiolwyr y grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice. Cafodd eu profiadau a'u sylwadau eu hadlewyrchu’n uniongyrchol hefyd yn ein sylwadau i'r Prif Weinidog am y cylch gorchwyl.
"Rwy’n gryf o blaid ymchwiliad annibynnol ac rwyf bob amser wedi credu mai'r ffordd orau o gyflawni hynny yw drwy ymchwiliad ledled y DU dan arweiniad barnwr."
Bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r ymgynghoriad i sicrhau bod profiadau pobl Cymru yn cael gwrandawiad priodol gan yr ymchwiliad.