Ymgyrchydd canser metastatig y fron yn cyfarfod â’r Gweinidog Iechyd i drafod gwelliannau mewn gwasanaethau
Metastatic breast cancer campaigner meets Health Minister to discuss improvement in services
Mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, wedi canmol yr ymgyrchydd Tassia Haines am ei hymdrechion i wella gwasanaethau ar gyfer canser metastatig y fron yng Nghymru.
Mae gan Tassia ganser y fron nad oes modd ei wella. Cafodd ei deiseb yn galw am ragor o nyrsys canser metastatig y fron ei chlywed yn y Senedd y llynedd. Roedd y ddeiseb hefyd yn galw am well ymwybyddiaeth o’r symptomau a gwell data ar ofal unigolion sydd â chanser metastatig y fron.
Cafodd y Gweinidog Iechyd gyfarfod â Tassia yr wythnos ddiwethaf i glywed ei phrofiadau a’i syniadau ynghylch sut y mae modd gwella gwasanaethau ar gyfer canser metastatig y fron yng Nghymru.
Dywedodd Tassia: “Aeth blwyddyn heibio ers i’n deiseb fynd drwy Bwyllgor Deisebau’r Senedd. Er ein bod ni wedi gweithio’n galed i ysgogi cynnydd a newid gwirioneddol, roeddwn i mor falch o allu cyfarfod â’r Gweinidog Iechyd wyneb yn wyneb. O ganlyniad, cefais gyfle i drafod â hi y bylchau mewn gwybodaeth allweddol sy’n dal i godi dro ar ôl tro, a’r angen am ddarpariaeth glinigol well i gleifion canser metastatig y fron ym mhob ardal o Gymru. Cefais yn wirioneddol fy nghalonogi gan gefnogaeth y Gweinidog, a chan y cyfle i gael trafodaeth mor ddi-flewyn-ar-dafod â hi.
Rydyn ni wedi dod mor bell â hyn drwy weithio gyda’n gilydd. Rydw i’n hyderus y byddwn ni’n parhau i gydweithio yn yr un modd hefyd. Canser metastatig y fron yw un o’r prif achosion marwolaeth ymhlith menywod o dan 64 oed yn y DU o hyd, ond rydyn ni am ymrwymo i roi terfyn ar ddioddefaint diangen ymhlith y cleifion hynny sydd â’r cyflwr.”
Dywedodd y Gweinidog Iechyd: “Cefais fy ysbrydoli gan Tassia, a chan y cyfle i gael clywed ei hanes a’i phrofiadau. Mae’n arwydd o’i dewrder ei bod hi wedi gallu defnyddio ei hamgylchiadau eithriadol o anodd ei hun i wella gwasanaethau ar gyfer pobl eraill.
Mae’n bwysig inni barhau i godi ymwybyddiaeth o symptomau canser y fron. Mae Tassia hefyd yn iawn i alw am sicrhau bod gwell data yn cael eu casglu ar ofal canser metastatig y fron. Mae ein buddsoddiad mewn system gwybodaeth canser newydd ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yn golygu y byddwn ni’n gallu casglu’r data hyn yn y dyfodol. Bydd y data hynny ynghyd â’r archwiliad cenedlaethol newydd ar gyfer canser metastatig y fron yn cefnogi gwelliannau yn ansawdd y gofal.”