English icon English

Ymrwymiad y Dirprwy Weinidog i sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael cydnabyddiaeth a chymorth teilwng

Deputy Minister committed to ensuring unpaid carers get support and recognition they deserve

 Heddiw (23 Tachwedd), mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, wedi nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr drwy ganmol y rôl hynod bwysig y mae gofalwyr di-dâl yn ei chwarae mewn cymunedau ar draws Cymru, gan dynnu sylw at y cymorth sydd ar gael iddynt. 

 

Dywedodd y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan:  

“Bob blwyddyn ar y diwrnod hwn, rydyn ni’n nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr a’n hymrwymiad i sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael y gydnabyddiaeth a’r cymorth y maen nhw’n eu haeddu.

Mae gofalwyr di-dâl yn chwarae rôl hanfodol drwy ofalu am aelodau o’u teuluoedd, cymdogion, ac eraill yn ein cymunedau sydd ag angen gofal a chefnogaeth ychwanegol. 

Maen nhw wedi ymroi i gefnogi’r rheini y maen nhw’n eu caru drwy ofalu amdanynt, a rhaid sicrhau eu bod nhw yn eu tro yn gallu cael y cymorth angenrheidiol, ar yr amser iawn, er mwyn helpu i gefnogi eu llesiant a’u helpu i gydbwyso’r galwadau dyddiol yn eu bywydau.

Mae dros 370,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru sy’n rhoi cymorth a gofal i berthynas neu gyfaill sydd â salwch neu anabledd, neu os oes angen rhagor o gymorth arnyn nhw gan eu bod yn mynd yn hŷn. 

Mae gofalwyr di-dâl yn aml yn gorfod cydbwyso eu rôl ofalu ag addysg, hyfforddiant, neu waith, neu efallai eu bod wedi ymddeol ac ag anableddau neu gyflyrau iechyd eu hunain.

Un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru yw gwella’r cymorth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl o bob oed, gan sicrhau eu bod yn cael mwy o gyfleoedd i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. 

Mae’r Cynllun Seibiant Byr yn galluogi gofalwyr di-dâl yng Nghymru i fwynhau cyfnodau i ffwrdd oddi wrth eu rôl ofalu – er mwyn helpu i wella eu llesiant meddyliol a chorfforol. 

Ers 2022, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £6m yn y cynllun, a fydd yn galluogi 30,000 o ofalwyr ychwanegol i gael seibiant i ymlacio, cymdeithasu, neu wneud gweithgareddau sydd o ddiddordeb iddynt.   

Cyfarfu’r Dirprwy Weinidog â gofalwyr di-dâl yn Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru er mwyn clywed am eu profiadau o ddefnyddio’r Cynllun Seibiant Byr. 

Dywedodd gofalwr di-dâl a fanteisiodd ar y cyfle i gael seibiant byr drwy weithgarwch grŵp: 

“Ar ôl ein trip diwrnod, roeddwn i’n teimlo’n llai ar fy mhen fy hun, ac roeddwn i’n teimlo hefyd mod i’n rhan o grŵp o gyd ofalwyr a oedd yn deall y pwysau sydd arnom i gyd fel gofalwyr. 

Mae hyn wedi fy helpu i ddeall mwy am y pwysau hyn, a bod yn fwy ymwybodol ohonyn nhw, a hefyd i ddeall y cymorth sydd ar gael i fy helpu i barhau i ofalu yn y dyfodol. 

Weithiau rydych chi angen seibiant dim ond er mwyn ichi allu gweld y ffordd ymlaen. Rydyn ni wedi sefydlu grŵp sgwrsio i gadw mewn cysylltiad, a chefnogi ein gilydd yn y dyfodol.” 

Dywedodd Liz Wallis, Arweinydd Rhaglen Seibiant Byr Cymru:

 “Mae’r Cynllun Seibiant Byr Cenedlaethol eisoes wedi rhoi cymorth hanfodol i filoedd o ofalwyr di-dâl ledled Cymru. Diolch i gyllid Llywodraeth Cymru, mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr wedi gallu gweithio’n gyflym gyda sefydliadau trydydd sector ym mhob ardal yng Nghymru i greu mwy o gyfleoedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sydd am gael seibiant rhag ei rôl ofalu ddyddiol.

“Mae’n wych clywed bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn y cynllun trawsnewidiol hwn sy’n gam cyntaf hanfodol tuag at sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn gallu cael y cyfle y maen nhw’n ei haeddu i orffwys ac ymlacio, ac i fwynhau eu hunain.

“Mae’r rhaglen seibiant byr yn gallu cynnig budd amhrisiadwy, nid yn unig oherwydd yr hwb y mae seibiant byr yn ei roi i iechyd a llesiant gofalwyr di-dâl a’u gallu i gynnal eu rôl ofalu, ond hefyd oherwydd ei neges bwysig bod gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi, a bod eu hangen am gefnogaeth yn flaenoriaeth.

“Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i roi cynlluniau uchelgeisiol ar waith i alluogi hyd yn oed mwy o ofalwyr i fanteisio ar seibiannau buddiol a gwerth chweil.”

Mae’r Gronfa Gymorth i Ofalwyr ar gyfer 2022-2024 hefyd wedi galluogi 24,000 o ofalwyr di-dâl sydd ar incwm isel i brynu nwyddau sylfaenol hanfodol, neu i gael gwybodaeth a chyngor i’w helpu i reoli eu rôl ofalu. 

Nodiadau i olygyddion

Notes to editors