Ymwelwyr wrth eu boddau â Chymru – yn ôl ymchwil newydd
People love Wales when they visit – new research shows
Mae pobl sy'n cymryd gwyliau yng Nghymru yn dweud eu bod yn fodlon iawn â'u profiadau yn y wlad, yn ôl ymchwil newydd sydd wedi ei gyhoeddi gan Croeso Cymru heddiw.
Mae'r adroddiadau o arolwg ail-gysylltu â defnyddwyr Croeso Cymru yn darparu gwybodaeth am ymddygiadau teithio a bwriadau cysylltiadau defnyddwyr Croeso Cymru. Mae cysylltiadau defnyddwyr yn bobl sydd wedi ymgysylltu a rhoi eu manylion cyswllt i Croeso Cymru yn 2022 - cyfeirir atynt hefyd fel 'ymholwyr'.
Mae canfyddiadau ymholwyr o'r DU ac Iwerddon yn cynnwys:
- Cymerodd 61% o ymholwyr Croeso Cymru o'r DU ac Iwerddon wyliau neu wyliau byr yng Nghymru yn 2022.
- Roedd y rhai a ymwelodd â Chymru yn 2022 yn fodlon iawn gydag ystod eang o feysydd. Nhw oedd y rhai mwyaf bodlon ag 'ansawdd yr amgylchedd naturiol' yng Nghymru (83% yn fodlon iawn), ac yna 'teimlad o ddiogelwch' (80%), 'glendid y traethau' (77%), 'y croeso a gawsoch' (76%) a 'lleoedd i ymweld â nhw (75%).
- Ar y profiad o gael gwyliau yng Nghymru, bu i 78% o ymwelwyr dros nos roi gwybod am eu profiad yng Nghymru fel un 'rhagorol', cynnydd sylweddol o raddfeydd 2021.
Nod strategaeth dwristiaeth Llywodraeth Cymru yw lledaenu manteision twristiaeth ledled Cymru, gan annog mwy o wariant yn ein heconomi a mynd i'r afael â natur dymhorol y sefyllfa drwy hyrwyddo Cymru fel gwlad y gallwch ymweld â hi gydol y flwyddyn.
Yn y cyfamser, dywedodd 22% o bobl o'r DU ac Iwerddon a ymwelodd â Chymru yn 2022 bod cyfathrebu Croeso Cymru wedi dylanwadu ar eu penderfyniad i gymryd eu gwyliau neu wyliau byr yng Nghymru. Y prif newidiadau a nodwyd ar deithiau a gymerwyd i Gymru oherwydd cyfathrebu Croeso Cymru oedd gwneud ymweliadau y tu allan i dymor yr haf ac ymweld â lleoedd newydd a mwy o leoedd na'r bwriad gwreiddiol.
Y tu hwnt i 'eisiau ymweld eto', roedd y rhai sy’n teithio i Gymru yn fwyaf tebygol o gael eu hysgogi i ymweld â Chymru oherwydd y cyfle 'i ddianc o bob dim a chael gorffwys' a 'chysylltu â natur/bod yn yr awyr agored'.
Mae cyfathrebu gan Croeso Cymru hefyd i weld wedi cael effaith ar deithiau yn y dyfodol. Mae tua 1 o bob 4 o bobl sy'n bwriadu ymweld â Chymru yn 2023 yn nodi bod cyfathrebiadau Croeso Cymru eisoes wedi cael dylanwad ar eu penderfyniad i gymryd eu taith yn 2023.
Meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, sy'n gyfrifol am dwristiaeth o fewn Llywodraeth Cymru:
"Gyda gwyliau'r Pasg yn prysur agosáu, rydym yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr newydd ac ymwelwyr sy’n dychwelyd i'n gwlad brydferth. Rydym hefyd am annog pobl Cymru i ddarganfod rhannau o'r wlad nad ydyn nhw erioed wedi bod ynddynt o'r blaen - mae rhywbeth i bawb ei weld ac ymweld â hwy ym mhob rhan o Gymru.
"Mae'n wych gweld y dylanwad cadarnhaol y mae ymgyrch farchnata Croeso Cymru yn ei gael ar yr ymwelwyr hynny sydd wedi ymgysylltu â Croeso Cymru cyn eu hymweliad. Bydd ymgyrchoedd marchnata Croeso Cymru yn parhau i sicrhau bod Cymru yn flaenllaw yn eu meddyliau, yn enwedig gyda'r diwydiant yn adrodd tuedd o ran archebion llawer hwyrach oherwydd yr hinsawdd economaidd."