English icon English
Yr Athro Jas Pal Badyal wedi'i benodi'n Brif Ymgynghorydd Gwyddonol Cymru

Yr Athro Jas Pal Badyal wedi'i benodi'n Brif Ymgynghorydd Gwyddonol Cymru

Professor Jas Pal Badyal appointed Chief Scientific Adviser for Wales

Mae cemegydd ymchwil sy’n adnabyddus ledled y byd, yr Athro Jas Pal Badyal FRS, wedi'i benodi yn Brif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru.

Fel Prif Gynghorydd Gwyddonol newydd Cymru, bydd yr Athro Badyal yn rhoi cyngor am wyddoniaeth i Brif Weinidog Cymru a Gweinidogion Cymru.

Bydd hefyd yn gyfrifol am ddatblygu gallu Llywodraeth Cymru ym maes gwyddoniaeth a chefnogi twf sylfaen wyddoniaeth ac ymchwil gref a deinamig yng Nghymru.

Ar hyn o bryd mae'r Athro Badyal yn Athro yn yr Adran Gemeg ym Mhrifysgol Durham. Mae'n enwog am ei ymchwil arloesol ar weithredu arwynebau soled ac ychwanegu nanohaenau swyddogaethol ar gyfer cymwysiadau technolegol a chymdeithasol.

Dywedodd yr Athro Jas Pal Badyal:

"Rwy'n llawn cyffro i gael y cyfle hwn i gyfrannu tuag at feithrin economi sgiliau uchel, uwch-dechnoleg, gan helpu i gael effaith gadarnhaol a lles i bobl Cymru.

"Mae gan Gymru botensial mawr i ddod yn arweinydd byd o ran datblygiadau arloesol technolegol ac yn targedu rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu dynoliaeth heddiw—gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, dirywiad amgylcheddol, ynni adnewyddadwy, diogelwch bwyd, gofal iechyd, ac anghydraddoldeb cymdeithasol cynyddol."

Wrth groesawu'r penodiad, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Rwy'n falch iawn o groesawu'r Athro Jas Pal Badyal fel Prif Gynghorydd Gwyddonol nesaf Cymru.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru'n genedl lle mae gwyddoniaeth, ymchwil ac arloesedd yn cael eu cefnogi ac yn cyflawni i safon uchel.  Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag ef i gyflawni'r uchelgais honno."

Mae'r Athro Badyal, a fydd yn dechrau yn y rôl ym mis Chwefror 2023, yn cymryd lle'r Athro Peter Halligan, a ymddeolodd o'r swydd yn 2022.

Bywgraffiad

 Dyfarnwyd graddau BA (1985) a PhD (1988) i Jas Pal Badyal o Brifysgol Caergrawnt, lle bu wedyn yn Gymrawd Coleg y Brenin a Chymrodoriaeth Oppenheimer. Ym 1989, symudodd i Brifysgol Durham i ymgymryd â darlithyddiaeth a chafodd ei ddyrchafu'n Athro Llawn ym 1996. Yn 2016, daeth yn Gymrawd etholedig y Gymdeithas Frenhinol (FRS) – Academi Gwyddorau Cenedlaethol y DU a'r Gymanwlad.

Caiff ei gydnabod yn rhyngwladol am ei ymchwil arloesol ar weithredu arwynebau soled ac ychwanegu nanohaenau swyddogaethol. Mae Jas Pal wedi dyfeisio ystod eang o arwynebau newydd ar gyfer cymwysiadau technolegol a chymdeithasol. Yn sail i'r rhain mae ymchwilio i fecanweithiau sylfaenol a thyfu.  Mae enghreifftiau'n cynnwys: gwrthfacteria, cynaeafu niwl, catalysis, rhwystro baeddu, switshau optochiral, hidlo, biosglodion, uwch-anhydreiddio, a nano-actol.