Yr haf mwyaf diogel ar ffyrdd Cymru, yn ôl ystadegau newydd
Safest summer on Welsh roads, new statistics show
Mae'r ystadegau diweddaraf ar wrthdrawiadau a gofnodwyd gan yr heddlu, sy’n cwmpasu’r cyfnod rhwng Gorffennaf a Medi 2024, yn dangos bod gwrthdrawiadau ar ffyrdd Cymru ar eu lefel isaf ar gyfer y chwarter hwnnw ers i gofnodion ddechrau, gan gynnwys yn ystod y pandemig.
gan gynnwys yn ystod y pandemig.
Mae'r ffigurau a gyhoeddwyd heddiw hefyd yn darparu'r flwyddyn gyntaf o ystadegau ers cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya.
Maent yn dangos bod tua 100 yn llai o bobl wedi cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd gyda therfynau cyflymder o 20mya a 30mya yn y cyfnod o 12 mis ar ôl cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya, o gymharu â'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.
Roedd nifer yr anafiadau ar ffyrdd gyda therfynau cyflymder ffyrdd 20 a 30mya (gyda'i gilydd) rhwng Gorffennaf a Medi 2024 yn cynrychioli’r ffigurau Ch3 isaf yng Nghymru ers i gofnodion ddechrau.
Yn ystod y cyfnod o 12 mis o Ch4 2023 i Ch3 2024 (h.y. ar ôl cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya), mae nifer yr anafiadau ar ffyrdd 20 a 30mya (gyda'i gilydd) 28% yn is na'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Mae'r data a gyhoeddwyd heddiw yn darparu gwybodaeth am y flwyddyn lawn gyntaf ers cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya.
"Mae'r darlun yn parhau i fod yn galonogol gyda nifer y gwrthdrawiadau ar ein ffyrdd ar eu lefel isaf ar gyfer y chwarter hwn. Rydym yn gwybod bod ffordd i fynd ac rydym bob amser wedi dweud y bydd yn cymryd nifer o flynyddoedd i weld effaith lawn y polisi, ond mae gweld y ffigurau ar gyfer y chwarter hwn ar eu lefel isaf yn gadarnhaol.
"Rydym yn parhau i adeiladu ar y consensws bod 20mya yn gweithio'n dda ar y ffyrdd cywir. Rydym wedi gwrando ar farn pobl am y polisi ac rydym wedi grymuso awdurdodau lleol i wneud newidiadau lle mae'n ddiogel gwneud hynny."
Mae'r ystadegau cyhoeddedig diweddaraf ar gael yma - Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu: Gorffennaf i Fedi 2024 (dros dro) | LLYW.CYMRU