Yr ŵyl gyntaf i ofalwyr ifanc yng Nghymru
First ever young carers festival takes place in Wales
Mae’r ŵyl gyntaf i ofalwyr ifanc yng Nghymru yn cael ei chynnal yr wythnos hon [23-25 Awst].
Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r ŵyl, sy’n cael ei chynnal dros dri diwrnod yn Llanfair-ym-Muallt. Dyma’r ŵyl gyntaf o’i bath yng Nghymru i gynnig seibiant i ofalwyr ifanc o’u cyfrifoldebau gofalu, a chyfle iddynt gymdeithasu a rhannu eu profiadau â gofalwyr ifanc eraill.
Mae bron i 300 o ofalwyr ifanc a gofalwyr sy’n oedolion ifanc o bob rhan o Gymru yn mynychu’r ŵyl, lle maent yn cael y cyfle i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys chwaraeon, disgos tawel a gweithgareddau celf a chrefft.
Ymwelodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, â’r ŵyl gan gyfarfod â rhai o’r gofalwyr ifanc i glywed sut mae digwyddiadau fel hyn yn gwneud cymaint o wahaniaeth.
Mae’r ŵyl hefyd yn gyfle i ofalwyr ifanc ddysgu mwy am y Cerdyn Adnabod i Ofalwyr Ifanc a sut i wneud cais amdano. Mae’r Cerdyn Adnabod cenedlaethol yn ffordd gyflym i ofalwyr ifanc allu rhoi gwybod i athrawon a staff mewn archfarchnadoedd, fferyllfeydd, neu eu meddygfa eu bod yn gofalu am rywun. Gall hefyd eu helpu i arfer eu hawliau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:
“Roeddwn wrth fy modd o gael y cyfle i brofi holl fwrlwm yr ŵyl, a chlywed gan y gofalwyr ifanc yn uniongyrchol a’u gweld nhw’n mwynhau eu hunain. Maen nhw i gyd yn haeddu seibiant o’u cyfrifoldebau gofalu a’r cyfle i gael hwyl.
“Dw i wedi bod yn awyddus i hyrwyddo llesiant holl ofalwyr di-dâl Cymru drwy gydol fy amser mewn llywodraeth, a dw i wedi gweithio’n galed i roi cynlluniau a mentrau ar waith i’w cefnogi. Hyd yn oed cyn dechrau’r pandemig roeddem yn gwybod bod gofalwyr ifanc a gofalwyr ifanc sy’n oedolion yn wynebu pwysau anferth wrth ofalu am rywun. I ormod ohonynt, mae’r pryder a’r straen, a’r teimlad o fod yn ynysig hyd yn oed pan fyddan nhw ymysg ffrindiau, yn cael effaith niweidiol ar eu llesiant.
“Gyda’n gilydd gallwn ni i gyd wella’r gefnogaeth a’r gydnabyddiaeth sy’n cael eu rhoi i ofalwyr ifanc ledled Cymru. Dw i’n gobeithio bod yr ŵyl hon yn un ffordd y gallwn ni ddangos ein gwerthfawrogiad o’n gofalwyr ifanc.”
Dywedodd Melanie Rees, Cydgysylltydd Gŵyl Gofalwyr Ifanc Cymru:
"Mae Gŵyl Gofalwyr Ifanc Cymru 2022 yn ddigwyddiad newydd a chyffrous, ac mae’r braf gweld bod digwyddiad tebyg i’r hyn sydd wedi bod yn cael ei gynnal yn yr Alban a Lloegr ers blynyddoedd, bellach yn cael ei gynnal yng Nghymru.
Mae’r ŵyl, a gynhelir ar faes y sioe yn Llanfair-ym-Muallt, yn cael ei mynychu gan 300 o ofalwyr ifanc 12-18 oed o ledled Cymru, gan gynrychioli 19 o siroedd.
“Mae’n cael ei chynnal dros gyfnod o 3 diwrnod a 2 noson, gan roi cyfle i ofalwyr ifanc gael seibiant o’u cyfrifoldebau gofalu, rhywbeth sydd bob amser yn hanfodol, yn enwedig ar hyn o bryd yn sgil y pandemig COVID. Mae hefyd yn gyfle unigryw iddyn nhw gwrdd ag eraill sydd mewn sefyllfa debyg, gan wneud ffrindiau newydd, cael hwyl, rhoi cynnig ar weithgareddau newydd, ymlacio a mwynhau’r rhyddid i fod yn blant neu’n bobl ifanc!
“Mae Credu mor falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu rhoi cefnogaeth hael i’r ŵyl, a rhagwelir y bydd yn dod yn ddigwyddiad blynyddol i ofalwyr ifanc yng Nghymru."
DIWEDD